Dychmygu achos[ion] Mastodon newydd

Mae potential Mastodon yn eithaf cyffrous ac dw i am asesu’r alw ymhlith bobl sy’n darllen hyn.

  • Pe tasai achos[ion] Mastodon newydd yn cael ei sefydlu pa nodweddion a chymuned hoffech chi weld?
  • Pe tasen ni – pwy bynnag ydyn ni… – yn breuddwydio am fath newydd o wasanaeth ffrwd eitemau (fel Twitter neu Tumblr efallai) pa bethau/bersonaliaeth/diwylliant sy’n bwysig i ni?
  • Neu fel arall, pa elfennau o brofiad Twitter, Tumblr, a gwasanaethau corfforaethol eraill fel y mae sydd ddim yn apelgar i chi?

Gwyliwch y fideo i ddysgu mwy am Mastodon:

4 sylw

Mae'r sylwadau wedi cau.