Hacio’r Iaith 2019 – Sesiwn ar sgwrsfotiau

Sesiwn gan Maredudd

Sgwrsfotiau yn gyfle i wella gwasanaeth sefyliad neu gwmni. (Defnydd mewn dysgu ieithoedd a meysydd eraill hefyd?) Teipio ar hyn o bryd, ond mae llais ar y ffordd.

Rhagor am deallusrwydd artiffisial.

Termau sgwrsfotiau:

  • Gweithred
  • Bwriad
  • Endidau

Angen mewnbynnu data sy’n cynnwys slang/bratiaith, e.e. ‘beth sydd i wotsho ar y teledu’, ‘pa raglen ti’n recomendo’ yn ogystal â Chymraeg safonol. Wrth deipio dydy defnyddwyr ddim yn atalnodi yn aml.

Peryg bydd safon sgwrsfotiau Cymraeg yn wael a thocenistaidd (os oes cefnogaeth o gwbl) – felly mae angen datblygu’r maes ymhlith datblygwyr Cymraeg.

Mae’r rhai Saesneg wrth Google/Apple ayyb yn generig ofanadwy achos maen nhw yn gyffredinol.

Dyma rai dolenni am adeiladu sgwrsfot Cymraeg… Dim lot o drefn, dim ond dolenni am y tro (trio gwrando a nodi ar yr un pryd!)

  • https://rasa.com/docs/
  • https://github.com/RasaHQ
  • https://www.kaggle.com/ (enw anffodus)
  • TensorFlow https://github.com/tensorflow/tensorflow