Newid thema gwefan Hacio’r Iaith

Unrhyw farn cryf ar sut ddylai wefan Hacio’r Iaith edrych?

Dw i wedi bod yn profi thema TwentyNineteen a’i gyfieithiad newydd gan Rhos Prys. Mae’r thema yn edrych fel Medium – addas iawn i erthyglau amlgyfrwng hirion.

Weithiau dw i’m teimlo bod angen cael gwedd ar Hacio’r Iaith sydd DDIM yn rhy slic ac sydd ddim fel cylchgrawn – er mwyn ein sbarduno i flogio pytiau a rhannu meddyliau yn sydyn, heb deimlo bod gormod o safonau a disgwyliadau llym.

Mae P2 wedi bod yn eithaf da yn hynny o beth. I’r rhai sydd ddim wedi ei weld, mae hi’n bosibl blogio yn syth o’r tudalen flaen – os oes cyfrif gyda chi. Yn y dechrau o’n i’n hapus i greu cyfrif i unrhyw un a ddaeth i ddigwyddiad Hacio’r Iaith. Mae hyn wedi arafu ychydig oherwydd pwysau eraill ond dw i’n hapus i ailystyried.)

Efallai bod y wefan yn fwy o gwch gwenyn na chylchgrawn slic. Un o’r pethau dw i wedi mwynhau dros y blynyddoedd ydy cynnal sgwrs gyda chi yn y sylwadau am bethau amrywiol. Mae cofnodion ‘anghyflawn’ yn rhan o hyn.

Bach o hanes: mae gwefan Hacio’r Iaith ar y we ers mis Tachwedd 2009. Mae’r wefan ar WordPress ers y dechrau ac wedi bod ar fersiwn o thema P2 am y rhan fwyaf o’r amser hyd heddiw. Dechreuwyd yr Haclediad yn 2010. Rydym wedi cyd-drefnu sawl digwyddiad Hacio’r Iaith yn y cyfamser wrth gwrs. Newidiwyd o’r enw haciaith.com i’r enw haciaith.cymru yn ddiweddarach.

1 sylw

  1. Mae’n gynrychiolaeth arlein o gymuned, felly mae thema mwy addas i drafodaeth a phytiau yn lle erthyglau hirion yn well yfmi.

Mae'r sylwadau wedi cau.