Meddalwedd Mastodon ar gael yn Gymraeg

Dw i wedi sôn am Mastodon o’r blaen yma, y rhwydwaith cymdeithasol fyd-eang ar feddalwedd rydd sydd yn arddel gwerthoedd datganoledig a chymunedol.

Nodyn bach sydyn ydy hwn i ddweud bod meddalwedd Mastodon bellach ar gael yn Gymraeg.

Mae hyn yn golygu bod modd:

  • cynnig Cymraeg fel iaith rhyngwyneb os ydych chi am sefydlu achos/gweinydd eich hunain
  • dewis Cymraeg fel iaith eich rhyngwyneb ar unrhyw achos/gweinydd o hyn ymlaen, cyn belled bod y gweinyddwr[aig] wedi gosod y meddalwedd arferol gan gynnwys pecynnau iaith.

e.e. dyma gwpl o enghreifftiau o achosion sy’n cynnig y rhyngwyneb Cymraeg eisoes:

  • twt.cymru – menter newydd gan Jaz-Michael King i ddarparu achos dwyieithog cyffredinol i Gymru (mwy o fanylion am hyn yn y man)
  • mastodon.social – y gweinydd mwyaf boblog yn fyd-eang
  • rhai eraill

Mae rheolwyr y prosiect wedi diweddaru’r ystorfa ar Github gyda’r cyfieithiadau Cymraeg o system Weblate yn ddiweddar yr wythnos hon.

Diolch o galon i Owain Rhys Lewis, Rhos Prys, a Jaz-Michael King am eu gwaith ar y cyfieithiad.

Wrth gwrs bydd angen i bobl ddiweddaru’r cyfieithiad ar Weblate wrth i nodweddion newydd ar y system gael eu hychwanegu.