Paid prynu iPad

fy marn i
http://quixoticquisling.com/2010/04/paid-prynu-ipad-os-oes-unrhyw-ddiddordeb-gyda-ti-yn-yr-iaith/

Dw i eisiau prynu uned amgen a datblygu shwmaePad.

9 sylw

  1. Dw i’n chwilio am rywbeth fel gliniadur touchscreen ar hyn o bryd. Wyt ti wedi gweld un rhywbeth fod ti’n lico? Wyt ti wedi gweld y HP TouchSmart tm2t?

  2. Rhodri, ti’n gallu defnyddio Ubuntu a rhyngwyneb GNOME gyda’r lleoleiddiad? Ti’n gallu cael cychwyn-deuol gyda OS X (“the world’s most advanced OS”)?

    Bydd Dafydd, Iestyn, Rhys, Telsa a Thomas yn hapus i ffeindio rhywun arall i helpu hefyd. 🙂
    http://l10n.gnome.org/teams/cy

    Alan, dw i wedi gweld e ond does dim profiad gyda fi. Rhywun arall?

  3. Ond dwi ddim eisiau Ubuntu – dwi eisiau Mac! Doeddwn i ddim wir yn hoffi Ubuntu ar yr Eeepc. Sori Linux fans ond mae’n well o lawer gen i Vista neu OS X. Dydi’r ffaith bod o ar gael yn Gymraeg ddim yn deal-breaker o ran dewis pa OS i’w ddefnyddio. Mae’n rhywbeth rhy hanfodol i’r profiad o ddefnyddio’r cyfrifiadur.

  4. Iawn, mae gen ti ddewis Rhodri!

    Mae Apple yn creu pethau da, dw i’n deall.

    Y breuddwyd yw profiad Cymraeg 100% ar pob cyfrifiadur – os ti’n dewis.

    Fydd Apple ddim yn arwain. Pwy fydd yn arwain a dylanwadu cwmniau mawr? Côd agored, Linux, Android, mwy na thebyg.

    Ond dydy Apple ddim yn barod eto. Er enghraifft, bydda i’n eitha siomedig os dw i’n gweld iPad yn yr ysgolion Cymraeg. Dydy’r Gymraeg ddim ar gael heblaw nifer bach o apps. Y neges i’r plant yw: dydy Cymraeg ddim yn pwysig yn y byd technoleg.

    “Dylanwad” yw fy hoff gair ar hyn o bryd. Dyma pham dw i’n hoffi Richard Stallman. Oedd e’n afresymol. Creuodd e Free Software Foundation. Dechreuodd e mudiad. Dychmygu byd heb GPL. Dim Linux, dim Firefox, dim WordPress, dim Apache, dim Perl, dim PHP, dim Ruby on Rails…

    Mae newid yn hollol bosib.

    Heddiw? Mae Apple yn hybu eu meddalwedd nhw. Ond mae amgen côd agored Cymraeg yn bodoli. Ydy pobol normal yn gwybod bod amgen yn bodoli? Pwy sy’n hybu’r amgen?

    Gyda llaw, beth faset ti wneud gyda £1m?

  5. >> Y breuddwyd yw profiad Cymraeg 100% ar pob cyfrifiadur – os ti’n dewis.

    Mae byw dy fywyd mewn dull eilradd yn diflasu rhywun weithia. Gorfod gofyn am daflenni yn dy iaith, gorfod cwyno am bopeth…mae defnyddio OS Linux, sydd dal ddim digon hawdd i’w ddefnyddio a’i lwytho yn rhoi profiad cyfrifiadura eilradd.

    Mae’n gachu nad oes gan Apple unrhyw fwriad i gynnwys ieithoedd eraill heb sôn am ieithoedd lleiafrifol, ond dwi ddim yn teimlo bod gen i ddewis. Y dewis yw Windows / Mac, ar hyn o bryd. Efallai y daw Ubuntu i fod yn system sydd yn hawdd i’w ddefnyddio ar desktops, fel sydd wedi digwydd gyda Android ar ffonau symudol, ond ar hyn o bryd mae’n or-gymleth, hyd yn oed i gîc (honedig) fel fi.

    Roedd Xandros ar yr Eeepcs i ddechrau – newidiais i o i Eeebuntu, oedd yn Gymraeg. Gret. Gofynnodd y system os o’n i isio diwedaru’r feddalwedd i roi bug fixes. Dwedais ‘ydw’, ond fe lwythodd o fersiwn gyfan o Ubuntu arno yn lle’r fersiwn ysgafn Eeebuntu oedd gen i yn wreiddiol. Dwi rwan wedi gorfod ail-osod Eebuntu (ar drydydd partition achos sgen i ddim clem sut ma gneud y sdwff disg galed na) ac mae’r peiriant yn rhedeg yn araf. Dwi’n galw hynna’n brofiad cwsmer gwael, ac oherwydd mod i wedi trio ei gael yn Gymraeg.

    Oes bai arna i am fynd am yr ‘opsiwn hawdd’, sydd yn anffodus yn brofiad Saesneg? Mae rhywun yn trio byw ei fywyd yn y Gymraeg gymaint ag sydd bosib, ac yn trio bod yn ‘afresymol’. Mae bywyd siaradwr Cymraeg yn ‘afresymol’ yn ôl confensiynau y gymdeithas da ni’n byw ynddi!

    >> Gyda llaw, beth faset ti wneud gyda £1m?

    faswn i’n rhoi addysg cynhyrchu cynnwys gwe Cymraeg i bob cymuned sy’n siarad yr iaith a gweld os byddai rhywbeth yn tyfu. Dwi o’r farn ar hyn o bryd taw nid y caledwedd na’r feddlawedd sydd bwysig ond meddylfryd y bobol sy’n defnyddio nhw. Ella wedyn fydd pobol ddim yn ofn defnyddio meddalwedd Gymraeg.

  6. Trafodaeth dda, dyma pam mae Hacio’r Iaith yn bodoli!

    Dwedais i ‘breuddwyd’ am reswm. Pam lai eh?

    >> faswn i’n rhoi addysg cynhyrchu cynnwys gwe Cymraeg i bob cymuned sy’n
    >> siarad yr iaith a gweld os byddai rhywbeth yn tyfu.

    Syniad cyffrous. Mae’n hollol bosib wneud y dau (meddalwedd a phobol). Rydyn ni wedi dechrau yn barod – gobeithio.

    Pwy yw’r blogwr newydd nesaf? Dechrau gyda hedyn bach a thyfu. Dylanwad!

    Dylwn i fynd ond dw i’n meddwl amdano fe yn bendant.
    🙂

  7. Gan mai ‘hacio’ yw hwn, oes rhywun wedi ystyried gwneud hyn i unrhyw ddarn o galedwedd yn ei perchnogaeth? Dwi di bod yn edrych sut i hacio fy nheledu newydd Panasonic Viera a cheisio cael yr EPG yn y Gymraeg. Dwi’n meddwl bod modd gwneud hyn gan fod rhan o’r feddalwedd yn un cod agored, ac mae pyrth ‘Common Interface’ a cherdyd SD.

Mae'r sylwadau wedi cau.