“Yes, we support books in Welsh.”

Ychydig yn ôl fe gysylltodd Y Lolfa a Amazon am gael ei llyfrau yn y siop eLyfrau Kindle, dywedodd Amazon eu bod nhw ddim yn cefnogi llyfrau Cymraeg, a byddai rhaid iddyn nhw gyflogi siaradwyr Cymraeg i brawf ddarllen y llyfrau cyn iddyn nhw gael eu gosod ar y safle.
Ar ôl clywed am y siom yma penderfynais gysylltu â Apple am eu iBookstore a gofyn iddynt a oeddynt yn cefnogi llyfrau yn yr iaith Gymraeg, ac yn nodweddiadol o Apple gefais ebost byr ac i’r pwynt yn ôl

“Yes, we support books in Welsh.”

Bellach rwyf wedi rhoi cais i mewn i fod yn gyhoeddwr ar yr iBookstore i allu gwerthu llyfrau, fe adawai chi wybod sut mae’n mynd yn y dyfodol.

5 sylw

  1. Oes na ystadegau da chi’n ymwybodol ohonyn nhw ar faint potensial marchnad iBookstore (h.y. defnydd a gwerthiant llyfrau ar yr app, nid gwerthiant iPads) o’i gymharu â Kindle?

Mae'r sylwadau wedi cau.