BLOGIO BYW – SESIWN 1: 'Cyfrinair 'na yn Crap'

Bryn Salisbury yn trafod diogelwch. Cyngor ar gyfrineiriau heb newid am 20 mlynedd, ond cyfrifaduron wedi cyflymu cymaint fel geellr datrys yr holl ‘cyfuniadau’ mewn dim amser. Medru dyfalu miloedd y yfuniadau yr eiliad. Enghreifftiau o gyfuniadau o rifau a symbolau a llythrennau a faint o amser gymerith. Tydy defnyddio geriau Cymraeg ddim mwy diogel… Parhau i ddarllen BLOGIO BYW – SESIWN 1: 'Cyfrinair 'na yn Crap'

BLOGIO BYW – SESWIN 1: Apps Cyw

Sioned Mills yn trafod arlwy apps Cyw. Beth yw ymateb y cyhoedd? – Derbyn llawer o adborth positif annecdotal, o canran fechan iawn sy’n lawrlwytho yn gadael sylwadau/adolygiadau yn yr App Oes llawer o du allan i Gymru/DG yn eu defnyddio? Dim omdd gwahaniaethu ystadegau ar lefel Cymru, mond lefel DG. ‘Spikes’ ar gyfer UDA,… Parhau i ddarllen BLOGIO BYW – SESWIN 1: Apps Cyw

Firefox OS Cymraeg

Daeth parsel bach brown i’r tŷ wythnos ddiwethaf yn cynnwys ffôn bach oren llachar. Roedd y parsel yn cynnwys Geeksphone Keon wedi ei anfon gan Mozilla fel bod modd profi’r cyfieithiad Cymraeg ar system weithredu Firefox OS. Mae’r cyfieithiad Cymraeg ar gael ar y fersiwn nosweithiol o’r ddelwedd ac i’w gael oddi ar wefan Geeksphone.… Parhau i ddarllen Firefox OS Cymraeg

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Haclediad #34: Youview, nhw-view a Haciaith 2014

Ar y rhifyn cyn-Haciaith 2014 yma bydd y Iestyn, Bryn a Sioned yn rhoi croeso gwresog i S4C i blatfform Youview; croeso a rhybydd i CEO newydd Microsoft, ac wrth gwrs cyffroi’n wirion cyn digwyddiad byw Hacio’r Iaith 2014 ym Mangor ar Chwefror y 15fed… welwn ni chi yno! Dolenni S4C ar Youview WebOS ar… Parhau i ddarllen Haclediad #34: Youview, nhw-view a Haciaith 2014

Microsoft Kodu yn Gymraeg: creu, chwarae a rhannu gemau ar Xbox360/Windows

Cymro sy’n gweithio i Microsoft ydy Stuart Ball. Mae fe wedi postio cofnod ar flog Microsoft i athrawon i ddatgan bod Kodu bellach ar gael yn Gymraeg mewn cydweithrediad a chyfieithwyr ifanc yn Ysgol Gyfun Bro Morgannwg. O’n i ddim yn gwybod beth yw Kodu a dweud y gwir. Mae hi’n iaith cyfrifiadurol a phlatfform… Parhau i ddarllen Microsoft Kodu yn Gymraeg: creu, chwarae a rhannu gemau ar Xbox360/Windows

Ogwen360: prosiect ymchwil newyddion lleol yn ardal Dyffryn Ogwen

Siôn Richards, myfyriwr doethuriaeth Prifysgol Aberystwyth mewn cyd-weithrediad â Golwg360, sy’n trafod prosiect sy’n ran o’i ymchwil i newyddion lleol iawn trwy gyfrwng y Gymraeg. […] Ddydd Gwener diwethaf bu i mi lansio prosiect ymchwil newyddion lleol yn ardal Dyffryn Ogwen. Bwriad y prosiect yw darganfod strwythurau ar gyfer cynhyrchu cynnwys yn seiliedig ar wybodaeth… Parhau i ddarllen Ogwen360: prosiect ymchwil newyddion lleol yn ardal Dyffryn Ogwen

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel post

SWYDD: Cydlynydd Wicipedia, Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Cydlynydd Wicipedia Yn dilyn cytundeb cydweithio rhwng y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Wikimedia DU y mae’r Coleg yn dymuno penodi Cydlynydd Wicipedia fydd yn adrodd i swyddogion a Bwrdd Academaidd y Coleg ar sut orau y gellir rhannu adnoddau addysgol ar lwyfannau Wikimedia, gan gynnwys Wicipedia, o dan drwyddedau priodol. Bydd gennych gefndir academaidd gadarn,… Parhau i ddarllen SWYDD: Cydlynydd Wicipedia, Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Cyfle i enill £1000 yng nghystadleuaeth arloesedd yr Eisteddfod

Ma hwn yn ddiddorol iawn. Dwi’n siwr y byddai nifer fawr o bobol sydd yn ymwneud ag ymddiddori yn Hacio’r Iaith â diddordeb mewn cystadlu: Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi manylion cystadleuaeth arbennig i hybu arloesedd, a fydd yn cychwyn eleni yn Eisteddfod Sir Gâr. Bwriad y gystadleuaeth hon yw annog Cymry o bob oed… Parhau i ddarllen Cyfle i enill £1000 yng nghystadleuaeth arloesedd yr Eisteddfod