Llai o raglenni Cymraeg ar y radio (ond mwy yn fyw ar-lein)

Mae erthygl ar Golwg360 o dan y teitl Llai o radio a theledu Cymraeg gan y BBC, yn trafod torriadau yn y nifer o oriau o ddarlledu cynnwys gwreiddiol fydd ar Radio Cymru ac bydd mwy o ail ddarlledu.  Nid trafod y cwtogi ydw i eisiau yma (gellir gwneud hynny fan hyn), ond yn hytrach y… Parhau i ddarllen Llai o raglenni Cymraeg ar y radio (ond mwy yn fyw ar-lein)

Google Refine

Soniais am Freebase Gridworks pan ysgrifennais am OpenTech 2010. Roedd sôn bryd hynny bod Google yn mynd i’w ail-enwi a nawr maen nhw wedi gwneud: mae Google Refine yw e nawr. Rwyf wedi bod yn ei ddefnyddio am y tro cyntaf yr wythnos hon ac, fel roeddwn wedi disgwyl, mae’n declyn defnyddiol iawn i rywun… Parhau i ddarllen Google Refine

“Dwi’n mynd o iSteddfod i iSteddfod…”

Mae Golwg360 yn adrodd bod Ambrose ac Edryd yn awyddus iawn i ddatblygu yr app iSteddfod, a bod dros 1,000 o bobol wedi ei lawrlwytho. Mae’n rhaid cyfaddef fod y ffigwr yna yn eitha syfrdanol, a llongyfarchiadau iddyn nhw am wneud cystal. Yn sicr dyna’r app Cymraeg (yn hytrach na dysgu Cymraeg) cyntaf i gyrraedd… Parhau i ddarllen “Dwi’n mynd o iSteddfod i iSteddfod…”

Hwyl fawr Bloglines

Wrth fewngofnodi i fy nghyfrif Bloglines echnos, dyma’r neges a oedd yn fy nisgwyl i: As you may have heard, we are sorry to share that Bloglines will officially shut down on October 1, 2010. Dw i ddim yn cofio pryd y dechreuais ddilyn blogiau a gwefannau newyddion trwy wasanaeth Bloglines, ond fe drawsnewidioddy y… Parhau i ddarllen Hwyl fawr Bloglines

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol Cofnodion wedi'u tagio

Cynhadledd Opentech 2010

Dyma ychydig o nodiadau am beth ddysgais neu welais yng nghynhadledd OpenTech 2010. Mae manylion pwy oedd yno, a rhagor, ar Lanyrd. Cafodd y gynhadledd ei noddi eleni gan data.gov.uk a’r sesiynau am ddata oedd yr rhai oedd o ddiddordeb pennaf i mi. Efallai i mai’r sesiwn cyntaf oedd y mwyaf diddorol o’m safbwynt i.… Parhau i ddarllen Cynhadledd Opentech 2010

Defnyddio Kickstarter i ariannu prosiectau ieithyddol?

Mae Kickstarter yn wedfan crowd-sourcing (rhaid i ni gael term call am hwnna…”torf-gasglu”?) ar gyfer ariannu prosiectau newydd. Efallai taw’r un enwocaf hyd yn hyn ydi prosiect Diaspora sy’n trio gwneud rhwydwaith gymdeithasol agored. Mae nhw wedi codi dros $200k erbyn hyn, sydd yn 20 gwaith eu targed gwreiddiol. Mae Suw Charman-Anderson hefyd wedi penderfynu… Parhau i ddarllen Defnyddio Kickstarter i ariannu prosiectau ieithyddol?

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Yahoo Pipes: adroddiadau Estyn

Es i gynhadledd AGI Cymru fis Rhagfyr diwethaf. Daliodd un o’r cyflwyniadau’n arbennig fy sylw, sef yr un ar Mobile GIS Mashups gan ddyn o Oxford Archaeology. Roedd yn frwd iawn am botensial Yahoo Pipes.  Doeddwn i ddim wedi dod ar ei draws cyn hynny a phenderfynais gael golwg arno rywbryd. Adroddais ar f’ymdrechion i… Parhau i ddarllen Yahoo Pipes: adroddiadau Estyn