Llai o raglenni Cymraeg ar y radio (ond mwy yn fyw ar-lein)

Mae erthygl ar Golwg360 o dan y teitl Llai o radio a theledu Cymraeg gan y BBC, yn trafod torriadau yn y nifer o oriau o ddarlledu cynnwys gwreiddiol fydd ar Radio Cymru ac bydd mwy o ail ddarlledu.  Nid trafod y cwtogi ydw i eisiau yma (gellir gwneud hynny fan hyn), ond yn hytrach y newyddion hyn:

…[bydd] Maggi Dodd yn cyflwyno rhaglen ar y we rhwng 7-8 gyda’r rhaglen honno, Dodd ar y We yn cael ei hailddarlledu ar C2 rhwng hanner nos ac un y bore.

Tra nad yw cwtogi oriau yn amlwg yn beth da, mae arbrofi gyda darlledu ar-lein yn syniad dewr.  Dyma’r union raglen y dylid arbrofi gyda hi, gan mai ei chynulledfa darged yw’r kids, ac os ydy unrhyw un am wrando ar radio ar-lein, nhw ydy’r rheini.

Yn bersonol, dw i ddim wrandawr mawr ar radio, ond mae digwydd bod stereo yn ein ystafell fyw, ystafell fwyta a’n cegin ni, felly mater hawdd iawn yw troi’r radio ymlaen. Gan bod cysylltiad di-wifr gyda ni acw, mae’n dod yn haws symud y gliniadur o un ystafell i’r llall, ond dw i’n dal i’w weld bach o ffaff (am y rheswm yma, mond unwaith dw i wedi ‘tiwnio i mewn’ i Radio Shwmae, er mawr cywilydd i mi) . Gyda datblygiadau pellach mewn technoleg a chysylltiadau gwell i’r we, mae’n siwr daw gwrando ar-lein yn beth haws a mwy naturiol.

Yr unig beryg efallai yw y gwelith Llywodraeth Llundain hyn fel esgus i gwtogi pellach a  dweud gall popeth fynd a- lein, ond mewn gwirionnedd, rheswm dros fwy o sianeli/gorsafoedd fydd hyn.

5 sylw

  1. Diddorol. Dw i eisiau sioe radio am y we!

    Wel ia, yn union – mae hi’n 2010 a hyd y gwydda i, does dim un rhaglen ar Radio Cymru wedi trafod y ‘ffenomena diweddaraf’ yma a elwir ‘y we’, (ag eithrio ambell gwestin twp).

    Beth am ddanfon proposal rhaglen atynt?!

  2. O’n i’n rhan o gynnig atynt ar y trywydd hwn tua blwyddyn yn ol. Dim lwc yn anffodus.

  3. O’r gofrestr ebost C2

    Ma’n siwr fod eich rhieni yn cofio ble roedden nhw pan ddaru dyn lanio ar y lleuad. Ma’n siwr fod chi’n cofio lle roeddech chi pan fu farw Michael Jackson? Ie, y digwyddiadau hanesyddol lle ma PAWB yn cofio ble roedden nhw ar yr amser penodol yna!

    Nos Lun yr 8fed o Dachwedd 2010 am 7pm lle fyddwch chi? Ydech chi isho bod yn rhan o hanes darlledu yng Nghymru? Wel, cofiwch wrando nos Lun wrth i Magi Dodd ddechre darlledu ar y we nos Lun i nos Wener. Darlledu arloesol ar y BBC yng Nghymru, cofiwch!! Byddwch yn rhan o hanes!!

Mae'r sylwadau wedi cau.