Clonc Cwpan y Byd: Sgwrsio byd-eang mewn 11 iaith

Am 2:30pm heddiw (11eg o Fehefin) bydd arbrawf unigryw ar wefan BBC Cymru o’r enw Clonc Cwpan y Byd:

Fel rhan o sylw’r BBC i Gwpan y Byd, ry’n ni am ddod â chefnogwyr at ei gilydd waeth pa iaith maent yn ei siarad. Mae Clonc Cwpan y Byd yn gyfle i fynd â hyn un cam ymhellach, i gael sgwrs fyd-eang, amlieithog.

Yn ôl Iwan Standley ar Radio Cymru bore’ma, bydd GoogleTranslate yn cael ei ddenfyddio fel bod pob sylw ar y negesfwrdd yn cael ei trosi i ddeg iaith arall.  Y ieithoedd fydd; Albaneg, Arabeg, Tsieinëeg, Saesneg, Perseg, Portwgaleg, Rwsieg, Sbaeneg, Swahili, Fietnamega a’r Gymraeg

Pwysleisiodd Iwan na fydd y cyfieithiadau’n berffaith a bod hyn yn gael ei wneud yn glir ar y wefan.  Dyma mae’n ddweud ar y wefan:

Ni fydd ein pwyslais ar gywirdeb y cyfieithu, ond yn hytrach ar ddod â chefnogwyr pêl-droed o bob rhan o’r byd at ei gilydd i drafod, beth bynnag fo’u mamiaith.

Mae’r BBC eisoes wedi cynnal arbrawf o sgwrsio amlieithog fel hyn o’r blaen, ond dyma’r tro cyntaf i’r Gymraeg fod yn ran ohoni.

5 sylw

  1. Rheolau am gymunedau arlein a chyfieithu

    1. Rhaid i ti dangos y neges yn yr iaith wreiddiol. (Efallai?)

  2. @Carl,

    Beth wyt ti’n feddwl, bod e’n dweud ‘Cymraeg’ yn lle ‘Welsh’ neu ‘Kiwelsh’ wrth dy neges wreiddiol?

    neu son yn gyffredinol am wefannau eraill sy’n danogs gynnyrch GoogleTranslate, ac y dylent fod yn arddangos y testun gwreiddiol bob tro er mwyn gwenud yn glir mai cyfieithiad mae pobl yn ei ddarllen?

    Rhaid i mi ddweud, pan o’n i’n gwrando ar y radio o’n i ddim yn meddwl byddai yna lot o bwynt i hyn, ac er bod rhai yn dod allan fel garbwl llwyr, mi synnias ar pa mor gywir oedd yr un Tsieinëeg > Cymraeg yma (ag eithrio’r bit am ‘cynffon’!)

  3. @Carl, dw i’n gweld beth ti’n feddwl rwan – yn y linell ‘Newid Iaith’.

  4. Dw i’n meddwl “dangos testun gwreiddiol bob tro er mwyn gwenud yn glir mai cyfieithiad mae pobl yn ei ddarllen”.

    Dw i newydd wedi darllen papur academaidd gan Daniel Cunliffe am gymuned arlein o brifathrawon gyda chyfieithu gan berson. Efallai mae e dal yn bwysig i ddangos y fersiwn wreiddiol i atgoffa pobol.

Mae'r sylwadau wedi cau.