Lle i fynd i lawrlwytho rhai o’r adnoddau seilwaith technoleg iaith diweddara’ ar gyfer Hacio Bach

Gyda Hacio’r Iaith yn cyflwyno: Hacio Bach, dan ofal Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor ar 14 Tachwedd 2020, dyma restr o rai o’r adnoddau seilwaith technoleg iaith all helpu i roi syniadau ichi o haciau Cymraeg gallwch chi ddatblygu. Mae prifysgolion yng Nghymru wedi bod yn flaengar wrth ddatblygu adnoddau technoleg iaith a seilwaith ieithyddol… Parhau i ddarllen Lle i fynd i lawrlwytho rhai o’r adnoddau seilwaith technoleg iaith diweddara’ ar gyfer Hacio Bach

Barn #haciaith ar rai o flaenoriaethau a bylchau technoleg #Cymraeg

Mewn sesiwn yn Haciaith eleni, holwyd barn mynychwyr  yr anghynhadledd ar flaenoriaethau a bylchau technoleg Cymraeg. Ymatebodd y rhai  oedd yn y sesiwn ar post-its. O’r cerdiau hynny, dyma naws yr ymatebion, yn nhrefn y nifer o weithiau y soniwyd amdanynt. 8 sylw Cynnig rhagweithiol o’r Gymraeg fel iaith yn ATMs a checkouts uwchfarchnadoedd; gwefannau/platfformau… Parhau i ddarllen Barn #haciaith ar rai o flaenoriaethau a bylchau technoleg #Cymraeg

Hoff adnodau digidol tiwtoriaid #DysguCymraeg2017

Mewn gweithdy yng Nghynhadledd Tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion https://dysgucymraeg.cymru/ yng Nghaerdydd yn yr haf, dyma oedd dewisiadau technoleg fwyaf handi’r tiwtoriaid. Mae’r rhif ar ddiwedd pob lein yn dangos faint o bleidleisiau (dotiau coch) cafodd pob adnodd: Duolingo – ap/gwefan – 33 Geiriaduron – gwefan – ap – 30 SSIW – ap/gwefan – 30 Quizlet… Parhau i ddarllen Hoff adnodau digidol tiwtoriaid #DysguCymraeg2017

Caerdydd Creadigol: Dangos a Dweud. 18/07/16 Hen Lyfrgell Caerdydd

Mae rhwydwaith creadigrwydd Prifysgol Caerdydd – Caerdydd Creadigol – yn cynnal noson i ddangos prosiectau Cymraeg yn yr Hen Lyfrgell, Caerdydd, 18:30 – 20:00 ar y 18fed o Orffennaf 2016.  Dyma’r arlwy: Huw Marshall  – Awr Cymru Cai Morgan – PUMP Daf Prys – FIDEO8 Dyma’r manylion o wefan Caerdydd Creadigol: “Mae ‘Dangos a Dweud’ Caerdydd Creadigol… Parhau i ddarllen Caerdydd Creadigol: Dangos a Dweud. 18/07/16 Hen Lyfrgell Caerdydd

Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes am gyflogi Cydymaith Ymchwil Ôl-ddoethurol

Dwi’n postio’r swydd yma ar ran Dawn Knight, CorCenCC. Y dyddiad cau yw 24/11/15 ‘CorCenCC – Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes: Dull cymunedol o adeiladu corpws ieithyddol’ Gwahoddir ceisiadau ar gyfer Cydymaith Ymchwil Ôl-ddoethurol i ymuno â phrosiect rhyngddisgyblaethol ac aml-sefydliadol fydd yn creu corpws ffynhonnell agored o Gymraeg cyfoes ar raddfa eang (CorCenCC). Nod y… Parhau i ddarllen Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes am gyflogi Cydymaith Ymchwil Ôl-ddoethurol

Ar agor: Cynllun Grant Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg 2015-16

Mae’r Grant Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg 2015-2016 Llywodraeth Cymru  ar agor i geisiadau rhwng nawr a’r 30ain o Ionawr 2015. Mae’r grantiau yn cefnogi amcanion y cynllun gweithredu Technoleg a chyfryngau digidol Cymraeg. Pwrpas y cynllun gweithredu yw annog gweithgareddau sy’n hybu ac yn hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg trwy dechnoleg a chyfryngau digidol. Prif… Parhau i ddarllen Ar agor: Cynllun Grant Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg 2015-16

Cymraeg ac Apple iOS8

Mae Apple iOS8 ar gael nawr. Un o’r nodweddion newydd yw’r gallu  i ddewis y Gymraeg fel hoff iaith. ‘Dyw hyn ddim yn golygu lleoleiddio llwyr, ond mae’n golygu bydd apiau gyda rhyngwyneb amlieithog – sydd yn cynnwys y Gymraeg – yn arddangos ar y ffôn neu lechen mewn Cymraeg. Beth sy’n wych yw mae’n… Parhau i ddarllen Cymraeg ac Apple iOS8

Sut i fewnosod eitemau o eBay

“Sut alla’i ennill bach o bres i gadw mynd?” – dyna’r cwestiwn mawr sy’n herio perchnogion gwefannau lleol (hyperlocal) Dros y blynyddoedd, dwi wedi bod yn arbrofi gyda ‘dolenni cildwrn’   (affiliate links). Mae hyn yn ffordd o arddangos cynnyrch a gwasanaethau cwmnïau eraill ar eich gwefan chi. Os bydd un o’ch ymwelwyr chi yn… Parhau i ddarllen Sut i fewnosod eitemau o eBay

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Help Cofnodion wedi'u tagio

Sut i roi fideo ‘Google Streetview Hyperlapse’ ar eich blog

Dyma fideo o bromenad Bae Colwyn wnes i wrth arbrofi gyda Google Streetview Hyperlapse. Does dim sain. clip fideo o blip.tv Nid oedd modd mewnosod fideo i’r post yn y blog yma Os am greu fideo o’r fath o’ch ardal chi: 1. dilynwch y ddolen o  http://www.teehanlax.com/labs/hyperlapse/ at y teclyn 2.  llusgwch  tagiau A a… Parhau i ddarllen Sut i roi fideo ‘Google Streetview Hyperlapse’ ar eich blog