Diweddariadau Carl Morris Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys

  • Carl Morris 7:25 AM ar 30 January 2017 Dolen Barhaol
    Tagiau: Apton, , Recordiau Sain   

    Apton – cipolwg ar ap ffrydio Recordiau Sain 

    Ydy unrhyw un sy’n darllen hwn wedi ceisio Apton eto?

    Oes unrhyw argraffiadau cynnar?

    Oes ‘na lle yn eich bywyd am ap o’r fath a ffordd arall o chwarae tiwns?

    Dros y penwythnos ffeindiais i amser (rhwng syllu ar eitemau newyddion) i chwarae cwpl o diwns arno fe.

    Gyda llaw beth geisio sbarduno rhagor o sgyrsiau yn y sylwadau ar flog Hacio’r Iaith? Byddai croeso cynnes i chi adael sylwadau.

     
  • Carl Morris 6:13 PM ar 23 January 2017 Dolen Barhaol
    Tagiau: ,   

    Llywodraeth, digidol ac arloesedd – fideo o gyflwyniad gan Leighton Andrews 

    Diolch i bawb am gymryd rhan yn Hacio’r Iaith 2017 ac i Ganolfan Bedwyr a chanolfan Pontio am ein croesawu!

    Dyma i chi fideo o gyflwyniad agoriadol Leighton Andrews yn Hacio’r Iaith 2017.

    Mae rhestr o fideos eraill o’r Cynhadledd Technoleg a’r Gymraeg ddydd Gwener hefyd (diolch Stefano).

    Mae croeso i unrhyw gyfranog[wraig|wr] bostio meddyliau a nodiadau ar flog Hacio’r Iaith yma. Byddai hi’n braf cael gweld unrhyw ddeunydd sy’n deillio o’r sesiynau. Gad i mi wybod os ydych chi eisiau cyfrif.

    Dw i’n edrych ymlaen yn arw at glywed yr Haclediad nesaf sy’n cynnwys darnau sain o’n hanghynhadledd.

     
  • Carl Morris 2:30 PM ar 16 January 2017 Dolen Barhaol
    Tagiau:   

    Hacio’r Iaith 2017 ym Mangor: cipolwg ar sesiynau 

    Mae Hacio’r Iaith 2017 yn agosáu!

    Bydd croeso cynnes i bawb a mynediad am ddim (nid y band) ddydd Sadwrn yma. Ond mae angen cofrestru nawr…

    Cofrestru

    Mae angen cofrestru os ydych chi am fynychu a chymryd rhan (yn Adeilad Pontio, Bangor, ar Sadwrn, 21 Ionawr 2017).

    Mae llawer o lefydd wedi mynd eisoes ac mae rhai ar ôl.

    Sesiynau

    Dyma rai o’r sesiynau sydd ar yr amserlen eisoes:

    • Newyddiaduraeth Ddigidol yn Gymraeg (gydag Ifan Morgan Jones)
    • Tech S4C – tech gwahanol mae S4C wedi eu gwneud; pethau plant, pethau eraill.
    • Cyflwyniad am waith y Llyfrgell Genedlaethol efo Wikidata
    • Gweithdy ymarferol ar sut i greu bot Cymraeg awtomatig ar Twitter
    • Diogelwch ar y We – pa rhaglenni i’w defnyddio
    • Prentisiaeth TGCh (technoleg gwybodaeth a chyfathrebu) Dwyieithog – camau cyntaf a heriau
    • Y Bywiadur – cip ar 8000 o luniau ar Eiriadur Rhywogaethau Cymdeithas Edward Llwyd
    • Araith Leighton Andrews am ‘Llywodraeth, digidol ac arloesi’
    • Lansiad papur trafod Cymdeithas yr Iaith Gymraeg am ddatganoli darlledu

    Hefyd…

    • UNRHYW BETH am y cyfryngau digidol a’r Gymraeg sydd o ddiddordeb i chi. Bydd slotiau gwag ar yr amserlen.

    Amserlen

    Rydym hefyd yn bwriadu llenwi amserlen y bore gyda sesiynau cyn y gynhadledd gan adael y prynhawn yn rhydd ar gyfer unrhyw sesiynau sydd heb eu trefnu o flaen llaw.

    Felly os ydych chi eisiau cynnal sgwrs, cyflwyniad, dangos eich gwaith, neu weithdy ymarferol cysylltwch â Carl neu Rhodri trwy’r cyfryngau cymdeithasol arferol neu rhowch wybodaeth mewn ar y Google Doc yma.

    Gwnewch bethau’n haws drwy rannu’ch syniad o flaen llaw – os yn bosib!

    Bydd tri ardal yn Pontio gyda thri math gwahanol o sesiwn:

    • Y Bocs Sebon – gofod cyflwyno, sdeil-theatr
    • Y Gweithdy – ardal ar gyfer sesiynau mwy ‘hands-on’
    • O Gylch y Tân – cylch ar gyfer cynnal trafodaeth a sgwrs

    Cynhadledd dydd Gwener

    Cofiwch fod yna Gynhadledd Technoleg a’r Gymraeg hefyd ym Mangor ar ddydd Gwener 20 Ionawr 2017 (y diwrnod cyn Hacio’r Iaith). Bydd rhai ohonom ni yn mynychu’r gynhadledd yn ogystal â Hacio’r Iaith. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar eu gwefan.

    Llety

    Rydyn ni wedi cael disgownt o rhyw 10% gan y Ganolfan Rheolaeth i bobl sy’n dyfynnu #techiaith wrth fwcio (yr un peth ag ar gyfer cynhadledd Technoleg a’r Gymraeg).

    Ewch yma am fanylion archebu llety.


    Diolch o galon i’r Ganolfan Technoleg Iaith a Chanolfan Bedwyr am gyd-drefnu a noddi’r bwyd ar gyfer Hacio’r Iaith.

     
  • Carl Morris 6:33 PM ar 6 January 2017 Dolen Barhaol  

    Tipyn o gamp: cynhadledd ar ddata agored yng Nghaerdydd, Chwefror 2017 

    Dyma fanylion am ddigwyddiad i unrhyw un sydd eisiau dysgu rhagor am y camp od o ddefnyddio data agored/rhydd.

     
  • Carl Morris 5:13 PM ar 13 October 2016 Dolen Barhaol
    Tagiau: ,   

    Bydd Hacio Iaith 2017 ar ddydd Sadwrn 21 Ionawr yng Nghanolfan Pontio, Bangor 

    garry

    Dyma neges fach sydyn i ddatgan ein bod ni wedi cadarnhau dyddiad a lleoliad Hacio’r Iaith 2017!

    Bydd croeso cynnes i bawb fynychu a chymryd rhan mewn cyfres o sesiynau, gweithdai, trafodaethau a chyflwyniadau am ddefnydd o’r Gymraeg yn y cyfryngau digidol.

    Bydd rhagor o fanylion gan gynnwys cofrestru cyn hir.

    Yn y cyfamser cadwch y dyddiad isod yn rhydd.


    Hacio’r Iaith 2017
    Dydd Sadwrn 21 Ionawr 2017
    Pontio, Bangor, Cymru, Ewrop

    Mae sôn hefyd gan un o ein ffrindiau am gynhadledd mwy ‘ffurfiol’ er diddorol am stwff digidol ar ddydd Gwener 20 ym Mangor gyda rhagor o fanylion am hyn i’w dilyn hefyd.

     
  • Carl Morris 5:44 PM ar 10 October 2016 Dolen Barhaol
    Tagiau: ,   

    Diwrnod Ada Lovelace 2016 #diwrnodAdaLovelace 

    Dyma nodyn bach sydyn i’ch atgoffa bod Diwrnod Ada Lovelace yn digwydd ddydd Mawrth 11fed o Hydref 2016.

    Mae’r diwrnod yn gyfle i bostio rhywbeth ar y we am lwyddiannau menywod yn y meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.

    Beth am gymryd rhan drwy drydar, blogio neu bostio am fenyw rydych chi’n edmygu?

    Mae rhagor o wybodaeth ar wefan Diwrnod Ada Lovelace ac mae hen gofnodion yma.

    Pob lwc i Suw a’r holl drefnwyr.

     
  • Carl Morris 1:01 PM ar 14 September 2016 Dolen Barhaol
    Tagiau: ,   

    Hacio'r Iaith 2017? Angen adborth 

    bangor-ffilter

    Tri chynnig:

    1. Oes gennych chi awydd mynychu a chymryd rhan mewn digwyddiad Hacio’r Iaith yn 2017? Dyma fydd yr wythfed digwyddiad mawr o’r fath – digwyddiad anffurfiol ar Gymraeg a thechnoleg i oddeutu 60 o bobl. Byddai croeso cynnes i bawb.

    2. Rydyn ni’n edrych at Fangor fel lleoliad y tro yma. Rydyn ni wedi derbyn braslun o gynnig eithaf da wrth leoliad yn ninas dysg.

    3. Rydyn ni hefyd yn ystyried dydd Sadwrn 21 Ionawr 2017 fel dyddiad. Nodwch fod y dyddiad mewn pensel, i’w gadarnhau unwaith rydyn ni’n gallu bod yn sicr bod digon o ddiddordeb. (I’r rhai sydd eisiau gwybod dw i ddim yn credu bod ‘na unrhyw gemau mawrion ar y dyddiad hwnnw.)

    Gadewch i mi (a phawb) wybod os ydych chi am gymryd rhan yn y sylwadau.

    Mae popeth uchod i’w gadarnhau ac mae’r cyfan yn dibynnu ar eich cefnogaeth, mewnbwn, a brwdfrydedd.

    x

     
    • Rhodri ap Dyfrig 5:15 PM ar 14 Medi 2016 Dolen Barhaol

      1. Ydw, ydw ydw!
      2. Bangor yn leoliad campus.
      3. Swnio fel dyddiad da i mi. Gorau po gynta ein bod ni’n cadarnhau fel gallwn ni gael siap ar y digwyddiad.

    • Sara Huws 6:37 PM ar 14 Medi 2016 Dolen Barhaol

      Ie plis! Dyddiad a lleoliad yn gret

    • Rhys 9:33 PM ar 14 Medi 2016 Dolen Barhaol

      1. Oes
      2. Wastad yn hoffi dychwelyd i Fangor
      3. Dyddiad yn y dyddiadur – s’byth gemau mawrion adeg yma o’r flwyddyn ta beth, mond gemau rygbi…

    • Robin 12:09 AM ar 15 Medi 2016 Dolen Barhaol

      Ai!
      Ymlaen!

    • Leia 9:55 AM ar 15 Medi 2016 Dolen Barhaol

      Hapus i fynd i Fangor!

    • Gareth Morlais 11:26 AM ar 15 Medi 2016 Dolen Barhaol

      Edrych ymlaen

    • Sioned 5:16 PM ar 15 Medi 2016 Dolen Barhaol

    • Dafydd 7:02 PM ar 15 Medi 2016 Dolen Barhaol

      Swnio’n grêt!

    • Carl Morris 2:40 PM ar 11 Hydref 2016 Dolen Barhaol

      Rydyn ni newydd gadarnhau’r dyddiad uchod ar gyfer Hacio’r Iaith 2017 ym Mangor!

      Bydd rhagor o fanylion cyn hir.

      Yn y cyfamser dylech chi ystyried dechrau meddwl am ba fath o sesiynau/sesiwn rydych chi am weld yn Hacio’r Iaith 2017 – pa bethau sydd o ddiddordeb i chi?

      x

  • Carl Morris 2:27 PM ar 25 July 2016 Dolen Barhaol
    Tagiau: ,   

    Diodydd Hacio’r Iaith #steddfod2016 

    corn-pinc-1924-650

    Ydych chi’n mynychu Eisteddfod Y Fenni 2016?

    Bydd criw ohonom ni yn cwrdd am ddiodydd ar y maes ar y dydd Mercher.

    Bydd croeso cynnes i bawb.

    Does dim agenda. Bydd hi’n gyfle i sgwrsio â phobl eraill sy’n hoffi:

    • defnyddio’r we a’r chyfryngau digidol yn Gymraeg
    • memynnau, fideo, cynnwys
    • apiau
    • gemau
    • ymgyrchu ar y we
    • ayyb

    Dydd Mercher 3ydd mis Awst 2016
    Dewch i’r byrddau bwyd.
    2pm ymlaen

    Pwy fydd yna? Beth yw eich diddordebau? Gadewch sylwadau isod.

    O.N. Gyda llaw dyma ragor o ddigwyddiadau tech/iaith yn ‘Steddfod eleni.

     
    • Leia 8:57 AM ar 28 Gorffennaf 2016 Dolen Barhaol

      Ffab – welwch i gyd yno!

    • Carl Morris 11:31 AM ar 28 Gorffennaf 2016 Dolen Barhaol

      Gwych iawn! Dere â robot os oes modd! (Neu fideo o robot.)

  • Carl Morris 10:10 AM ar 22 July 2016 Dolen Barhaol
    Tagiau: , eisteddfod2016,   

    S4C – Sianel Pwy? #steddfod2016 

    Dyma wybodaeth wrth Gymdeithas yr Iaith Gymraeg am drafodaeth yn Eisteddfod Genedlaethol 2016 sy’n siŵr o gynnwys triniaeth o’r we a chyfryngau digidol:

    cymdeithas-s4c-sianel-pwy

    Annwyl gyfaill,

    Yn yr Eisteddfod byddwn yn cynnal cyfarfod cyhoeddus i drafod adolygiad Llywodraeth Prydain o S4C yn 2017, gan gynnwys mentrau digidol newydd posib a materion cynnwys megis polisi is-deitlau’r sianel.

    Felly, hoffwn eich gwahodd i’n cyfarfod ar faes yr Eisteddfod:

    S4C – Sianel Pwy?
    2:00pm, Dydd Iau, 4 Awst
    Pabell y Cymdeithasau 1

    Siaradwyr: Huw Jones (Cadeirydd S4C), Jamie Bevan (Cymdeithas) a Siân Powell (Coleg Cymraeg Cenedlaethol)

    Yn ystod y cyfarfod bydd ein cadeirydd, Jamie Bevan, yn cyflwyno ein dogfen bolisi newydd am ddyfodol S4C. Bydd hefyd cyfle i chi holi cwestiynau i’r panel, wedi i Huw Jones ymateb a gosod ei weledigaeth yntau o ran dyfodol y sianel.

    Am fwy o wybodaeth neu i gadarnhau eich bwriad i ddod, cysylltwch â ni drwy e-bostio post@cymdeithas.cymru neu drwy ffonio 01970 624501.

    Mae manylion am ein digwyddiadau eraill yn yr Eisteddfod, sy’n cyd-fynd â’r thema ‘Miliwn o Siaradwyr Cymraeg’ i’w gweld yma: http://cymdeithas.cymru/steddfod

    Mae croeso i chi anfon yr e-bost hwn ymlaen at eich cysylltiadau.

    Yn gywir,

    Jamie Bevan,
    Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith

     
  • Carl Morris 9:49 PM ar 6 May 2016 Dolen Barhaol
    Tagiau: BydTermCymru, ,   

    Holiadur BydTermCymru 

    I’r rhai sy’n licio terminoleg a chyfieithu, Llywodraeth Cymru yn dweud:

    O fis Mehefin ymlaen byddwn yn gweithio ar Gam 2 gwefan BydTermCymru – sef cywiro’r gwallau technegol sy’n weddill ac efallai wneud rhai addasiadau i’r dyluniad.

    Y cam nesaf wedi hynny fydd mynd ati i fireinio’r adnoddau sydd ar gael ar y wefan, a datblygu adnoddau newydd.

    Er mwyn sicrhau y byddwn yn canolbwyntio ar y gwelliannau pwysicaf, ac yn datblygu ein hadnoddau yn y modd mwyaf defnyddiol i gyfieithwyr Llywodraeth Cymru a’r sector cyhoeddus yn ehangach, rydym wedi lansio holiadur ar wefan SurveyMonkey. Fe’ch anogwn i fanteisio ar y cyfle hwn i ddylanwadu ar ffurf a chynnwys BTC at y dyfodol, gan gofio y caiff eich sylwadau eu casglu’n gwbl ddienw.

    […]

    Ewch i’r eitem am Holiadur BydTermCymru ar eu gwefan am ragor o wybodaeth

     
c
compose new post
j
next post/next comment
k
previous post/previous comment
r
reply
e
edit
o
show/hide comments
t
go to top
l
go to login
h
show/hide help
esc
cancel