Common Voice, adnabod lleferydd, cyfieithu a mwy… Gweithdy ar y Porth Technolegau Iaith

Bydd rhai eisoes wedi gwylio’r rhaglen ddifyr ar S4C DRYCH: Achub Llais John am un o brosiectau’r Uned Technolegau Iaith ym Mangor. Gwyliwch y rhaglen os nad ydych chi wedi cael siawns eto.

Dyma ddigwyddiad difyr yn Aberystwyth mae’r uned yn trefnu ym mis Mehefin – at sylw unrhyw un sydd eisiau cael profiad o ddefnyddio rhai o’r technolegau neu’n ymddiddori mewn defnyddio adnoddau’r Porth mewn cynnyrch cyfrifiadurol Cymraeg ac amlieithog.

Gweithdy Ymarferol ar y Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol Cymru 18 Mehefin 2019

Annwyl Pawb

Fe’ch gwahoddir i weithdy ymarferol ar sut i wneud defnydd llawn o adnoddau’r Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar 18 Mehefin, 2019.

Mae’r gweithdy hwn yn addas ar gyfer datblygwyr meddalwedd, hacwyr, ieithwyr cyfrifiadurol, athrawon cyfrifiadureg, gwirfoddolwyr technoleg iaith, a phawb sy’n ymddiddori mewn defnyddio adnoddau’r Porth mewn cynnyrch cyfrifiadurol Cymraeg ac amlieithog.

Byddwn yn ceisio cynnal gweithdai i ateb diddordebau penodol y rhai fydd yn bresennol. Y themâu dan sylw yw:

  • Adnoddau Adnabod lleferydd
  • Adnoddau Testun i leferydd
  • Gwasanaethau API ac ategynion (Vocab, Cysill Ar-lein, Termau, Lemateiddiwr)
  • Adnoddau Cyfieithu Peirianyddol
  • Cyfrannu i Common Voice

Bydd y gweithdai yn cael eu rhedeg gan staff yr Uned Technolegau Iaith a’u partneriaid. Ariennir y gweithdy hwn gan yr ESRC drwy Gronfa Cyflymu Effaith Prifysgol Bangor mewn cydweithrediad gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Cofrestrwch yma:-

https://tocyn.cymru/cy/event/ec034710-9e5c-4a29-ab01-1a79e906b2ab

A fyddech cystal ag anfon yr e-bost hwn at eich rhwydweithiau ac unrhyw un arall sydd â diddordeb.

Cofion Cynnes

Stefano Ghazzali

Cysylltwch yn uniongyrchol â Stefano fel trefnwr am ragor o wybodaeth. (Dw i wedi cael caniatâd i gyhoeddi’r gwahoddiad yma.)