Creu Cyfryngau yn Eich Iaith: Digwyddiad yn Llundain /cc @philonski

[…] ‘Creu Cyfryngau yn Eich Iaith’ yw gweithdy undydd i gynhyrchwyr, cyflwynwyr, newyddiadurwyr ac academyddion sydd yn gweithio ar radio, teledu, print a chynnwys gwe mewn ieithoedd ar wahân i Saesneg. […] Yn anffodus dw i’n methu mynychu ond mae’r digwyddiad yn edrych fel cyfle da i rannu profiadau gydag arbenigwyr o ieithoedd eraill. Ewch… Parhau i ddarllen Creu Cyfryngau yn Eich Iaith: Digwyddiad yn Llundain /cc @philonski

Chwarae Gwyddbwyll.com gydag Owen Llywelyn #steddfod2013

Dyma fideo 35-munud o’r rhan fwyaf o gyflwyniad eisteddfodol Owen Llywelyn am Gwyddbwyll.com, gwefan annibynnol sydd yn galluogi gemau gwyddbwyll fyd-eang trwy gyfrwng y Gymraeg! Mae’r fideo yn fler ac mae sgrin yn edrych yn lliwgar a phinc am ryw reswm. Dw i’n hapus fy mod i wedi dogfennu’r sgwrs. Does dim ymddiheuriadau heblaw am… Parhau i ddarllen Chwarae Gwyddbwyll.com gydag Owen Llywelyn #steddfod2013

Sut i sgwennu ap: gweithdy codio ar y maes Dydd Gwener gyda @meilgwilym #steddfod2013

Roedd Mei Gwilym yn gyfrifol am weithdy hynod lwyddiannus am godio yn ein lle ni ar y maes llynedd. [1 2] Ar ddydd Gwener (sef, heddiw tra fy mod i’n sgwennu’r cofnod hwn) mae fe’n dod yn ôl i redeg gweithdy newydd sbon. Ar yr amserlen ar y wici mae fe’n addo eich bod chi’n… Parhau i ddarllen Sut i sgwennu ap: gweithdy codio ar y maes Dydd Gwener gyda @meilgwilym #steddfod2013

Hacio Technoleg Cerddoriaeth: syntheseiddwyr, tapiau a musique concrète #steddfod2013

Roedd sesiwn ddifyr iawn gyda Hywel Wiliam am syntheseiddwyr, tapiau a musique concrète bore yma – gan gynnwys defnydd o beiriannau cerddorol mewn tiwns gan Stockhausen, Dilyn y Dall, New Order, Malcolm Neon, Eirin Peryglus, Y Brodyr a mwy. Beth yw musique concrète? Ewch i’r erthygl newydd sbon am musique concrète ar Wicipedia Cymraeg. Mae… Parhau i ddarllen Hacio Technoleg Cerddoriaeth: syntheseiddwyr, tapiau a musique concrète #steddfod2013

2YH heddiw: Trafod newyddion lleol gyda Gareth Morlais @melynmelyn. Yn y 'm@es' ar y maes. #steddfod2013

Nodyn bach sydyn i ddweud bydd Gareth Morlais yn cyflwyno a chynnal trafodaeth heddiw ar y maes am newyddion lleol. Croeso cynnes i bawb! Adeilad ‘m@es’ ger y prif fynedfa ar y maes Eisteddfod Genedlaethol Dinbych 2:00YH dydd Mawrth 6ed mis Awst 2013 Trafodaeth: #haciaith Amserlen a manylion am yr wythnos ar y wici

Dewch i helpu recordio’r Haclediad am 2YH dydd Llun ym ‘m@es’ ar y maes #steddfod2013

Steddfodwyr! Dewch yn llu i ‘m@es’ ar y maes i helpu recordio’r Haclediad gyda ni, sef podlediad am dechnoleg, y we, aps, symudol a’r Gymraeg 2:00YH dydd Llun 5ed mis Awst 2013 Croeso cynnes i bawb! Trafodaeth: #haciaith Recordir y 30fed pennod o’r Haclediad yng nghwmni @bryns @iestynx @llef (mewn ysbryd) ac eraill. Gweler hefyd:… Parhau i ddarllen Dewch i helpu recordio’r Haclediad am 2YH dydd Llun ym ‘m@es’ ar y maes #steddfod2013

Arddangosfa Hanes y We Gymraeg #steddfod2013

Yn ogystal â chyfres o sesiynau Hacio’r Iaith yn Ninbych eleni mae arddangosfa Hanes y We Gymraeg trwy’r wythnos yn yr un adeilad – sef ‘m@es’ ar y maes ger y brif fynedfa. Dewch i weld yr holl ddatblygiadau – ac i ffeindio ysbrydoliaeth am y blynyddoedd i ddod! Diolch yn fawr iawn i Aled… Parhau i ddarllen Arddangosfa Hanes y We Gymraeg #steddfod2013

Hacio’r Iaith yn Steddfod Gen 2013 #steddfod2013

Pwy sy’n dod i Steddfod eleni? Mae Hacio’r Iaith ar y maes yn cynyddu bob blwyddyn. Cymuned agored o bobl proffesiynol ac amatur yw Hacio’r Iaith sydd yn trin a thrafod sut mae’r iaith yn cael ei ddefnyddio gyda thechnoleg a pha fath o hwyl sydd yn bosib yn y maes/meysydd. Enw lleoliad Hacio’r Iaith… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith yn Steddfod Gen 2013 #steddfod2013

Cymru Fyw: gwasanaethau BBC ar-lein newydd

BBC heddiw yn dweud: BBC Cymru Wales yn cyhoeddi cynlluniau i ddatblygu “Cymru Fyw” – gwasanaeth ar-lein newydd yn Gymraeg fydd yn gyfoes ac unigryw Mae BBC Cymru Wales heddiw wedi cyhoeddi buddsoddiad newydd sylweddol yn eu gwasanaethau digidol ar-lein yn Gymraeg gyda chynlluniau i ddatblygu gwasanaeth newydd o’r enw Cymru Fyw. Bydd y gwasanaeth,… Parhau i ddarllen Cymru Fyw: gwasanaethau BBC ar-lein newydd

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol Cofnodion wedi'u tagio