Arddangosfa Hanes y We Gymraeg #steddfod2013

hanes-y-we-gymraeg

Yn ogystal â chyfres o sesiynau Hacio’r Iaith yn Ninbych eleni mae arddangosfa Hanes y We Gymraeg trwy’r wythnos yn yr un adeilad – sef ‘m@es’ ar y maes ger y brif fynedfa.

Dewch i weld yr holl ddatblygiadau – ac i ffeindio ysbrydoliaeth am y blynyddoedd i ddod!

Diolch yn fawr iawn i Aled Powell ac Ifan Ceinion am eu gwaith ar yr arddangosfa (dw i’n methu derbyn unrhyw glod heblaw am ychydig o waith siswrn). Syniad gwreiddiol gan Rhodri ap Dyfrig a chyfrannwyr amrywiol ar y we.