50 Ffordd i wella dy Gymraeg arlein #steddfod2013

Des i heb cyflawniad go iawn i arwain y sesiwn a sa i’n siwr faint o ffyrdd oedd yn y diwedd ond dyna’r Google Doc o’r rhestr llawn.  Diolch i bawb oedd yn ychwanegu pethau (a chywirodd fy Nghymraeg i ‘fyd!) Mae’n wastad lle i mwy felly os wyt ti’n moyn cyfrannu at y dogfen… Parhau i ddarllen 50 Ffordd i wella dy Gymraeg arlein #steddfod2013

Chwarae Gwyddbwyll.com gydag Owen Llywelyn #steddfod2013

Dyma fideo 35-munud o’r rhan fwyaf o gyflwyniad eisteddfodol Owen Llywelyn am Gwyddbwyll.com, gwefan annibynnol sydd yn galluogi gemau gwyddbwyll fyd-eang trwy gyfrwng y Gymraeg! Mae’r fideo yn fler ac mae sgrin yn edrych yn lliwgar a phinc am ryw reswm. Dw i’n hapus fy mod i wedi dogfennu’r sgwrs. Does dim ymddiheuriadau heblaw am… Parhau i ddarllen Chwarae Gwyddbwyll.com gydag Owen Llywelyn #steddfod2013

Sut i sgwennu ap: gweithdy codio ar y maes Dydd Gwener gyda @meilgwilym #steddfod2013

Roedd Mei Gwilym yn gyfrifol am weithdy hynod lwyddiannus am godio yn ein lle ni ar y maes llynedd. [1 2] Ar ddydd Gwener (sef, heddiw tra fy mod i’n sgwennu’r cofnod hwn) mae fe’n dod yn ôl i redeg gweithdy newydd sbon. Ar yr amserlen ar y wici mae fe’n addo eich bod chi’n… Parhau i ddarllen Sut i sgwennu ap: gweithdy codio ar y maes Dydd Gwener gyda @meilgwilym #steddfod2013

Hacio Technoleg Cerddoriaeth: syntheseiddwyr, tapiau a musique concrète #steddfod2013

Roedd sesiwn ddifyr iawn gyda Hywel Wiliam am syntheseiddwyr, tapiau a musique concrète bore yma – gan gynnwys defnydd o beiriannau cerddorol mewn tiwns gan Stockhausen, Dilyn y Dall, New Order, Malcolm Neon, Eirin Peryglus, Y Brodyr a mwy. Beth yw musique concrète? Ewch i’r erthygl newydd sbon am musique concrète ar Wicipedia Cymraeg. Mae… Parhau i ddarllen Hacio Technoleg Cerddoriaeth: syntheseiddwyr, tapiau a musique concrète #steddfod2013

2YH heddiw: Trafod newyddion lleol gyda Gareth Morlais @melynmelyn. Yn y 'm@es' ar y maes. #steddfod2013

Nodyn bach sydyn i ddweud bydd Gareth Morlais yn cyflwyno a chynnal trafodaeth heddiw ar y maes am newyddion lleol. Croeso cynnes i bawb! Adeilad ‘m@es’ ger y prif fynedfa ar y maes Eisteddfod Genedlaethol Dinbych 2:00YH dydd Mawrth 6ed mis Awst 2013 Trafodaeth: #haciaith Amserlen a manylion am yr wythnos ar y wici

Dewch i helpu recordio’r Haclediad am 2YH dydd Llun ym ‘m@es’ ar y maes #steddfod2013

Steddfodwyr! Dewch yn llu i ‘m@es’ ar y maes i helpu recordio’r Haclediad gyda ni, sef podlediad am dechnoleg, y we, aps, symudol a’r Gymraeg 2:00YH dydd Llun 5ed mis Awst 2013 Croeso cynnes i bawb! Trafodaeth: #haciaith Recordir y 30fed pennod o’r Haclediad yng nghwmni @bryns @iestynx @llef (mewn ysbryd) ac eraill. Gweler hefyd:… Parhau i ddarllen Dewch i helpu recordio’r Haclediad am 2YH dydd Llun ym ‘m@es’ ar y maes #steddfod2013