Sut i sgwennu ap: gweithdy codio ar y maes Dydd Gwener gyda @meilgwilym #steddfod2013

llun o'r faner gan Aled Powell

Roedd Mei Gwilym yn gyfrifol am weithdy hynod lwyddiannus am godio yn ein lle ni ar y maes llynedd. [1 2]

Ar ddydd Gwener (sef, heddiw tra fy mod i’n sgwennu’r cofnod hwn) mae fe’n dod yn ôl i redeg gweithdy newydd sbon.

Ar yr amserlen ar y wici mae fe’n addo eich bod chi’n gadael gyda ‘map syml yn addas ar gyfer cyfrifiadur neu ddyfais symudol’. Bydd y sesiwn yn addas i ddechreuwyr. Croeso cynnes i bawb. Dewch â gliniadur os bosib.

Adeilad ‘m@es’ ger y prif fynedfa ar y maes
Eisteddfod Genedlaethol
Dinbych
dydd Gwener 9fed mis Awst 2013
Gweler yr amserlen am fanylion/sesiynau eraill

Dw i’n methu credu bod dydd Gwener wedi cyrraedd eisoes. Dw i’n sgwennu’r cofnod hwn ar ôl gig Geraint Jarman, o fy nghar achos mae’n fwy addas i flogio na’r babell! Diolch i bawb a gymerodd rhan yn Hacio’r Iaith yn enwedig y rhai sydd wedi trefnu sesiynau. Mae angen sôn arbennig am Aled Powell sydd wedi gweithio yn galed ar Hacio’r Iaith, diolch i ti! Mae’r lle’n gallu bod ar agor dydd Sadwrn – os oes galw?