Hacio Technoleg Cerddoriaeth: syntheseiddwyr, tapiau a musique concrète #steddfod2013

hacio-technoleg-cerddoriaeth-hywel-wiliam

Roedd sesiwn ddifyr iawn gyda Hywel Wiliam am syntheseiddwyr, tapiau a musique concrète bore yma – gan gynnwys defnydd o beiriannau cerddorol mewn tiwns gan Stockhausen, Dilyn y Dall, New Order, Malcolm Neon, Eirin Peryglus, Y Brodyr a mwy.

Beth yw musique concrète? Ewch i’r erthygl newydd sbon am musique concrète ar Wicipedia Cymraeg.

Mae cyfle arall i weld y cyflwyniad a chwarae gydag aps cerddorol heddiw am 4:30YH.
Adeilad ‘m@es’ ger y prif fynedfa ar y maes
Eisteddfod Genedlaethol
Dinbych
dydd Mercher 7fed mis Awst 2013

4 sylw

  1. Ddylen ni gael diwrnod o hacio’r iaith jest am gerddoriaeth. Cael Malcolm Gwyon fyny, Ed Holden, Hywel, Geraint Ffrancon, ailffurfio Wwzz/Tokyu, Eirin Peryglus, Pencadlys, Lembo. Gweithio ar hacs a thrafod y tech yn y dydd – fwc o gig electronig yn y nos. Na fo, dwi di confinsio’n hun: diwedd Tachwedd @Aberystwyth! 🙂

Mae'r sylwadau wedi cau.