Trendio ar Twitter? Angen tweet tua bob 19 eiliad

Dydd Sadwrn cafodd y testun S4C ei chofrestru ar “Trending topics”, y gofrestr DU o bynciau poblogaidd ar Twitter. Ffactor pwysig oedd penderfyniad BBC i ddangos tennis yn lle rygbi felly roedd pobol yn cwyno ac awgrymu S4C fel sianel amgen i wylwyr BBC. Wrth gwrs mae pobol yn postio negeseuon gyda’r testun S4C trwy’r… Parhau i ddarllen Trendio ar Twitter? Angen tweet tua bob 19 eiliad

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel post Cofnodion wedi'u tagio ,

Umap – casglu trydar adar Gwlad y Basg

Mae Umap yn wasanaeth sydd yn casglu trydar Basgeg a’u cyflwyno ar blatfform arall. Mae’n aggregator, neu’n gydgaslgydd o’r holl drafod sy’n digwydd yn yr iaith ar Twitter. Mae’r gwasanaeth hefyd yn rhoi deg uchaf o’r tagiau sydd wedi cael eu defnyddio yn y 24 awr dwetha, yr wythnos dwetha a’r mis dwetha. Mae’n defnyddio… Parhau i ddarllen Umap – casglu trydar adar Gwlad y Basg

Cymunedau, grwpiau ac unigolion ar Twitter

Pwy sy’n rhedeg Wicipedia ar Twitter? Diolch am y retweet ond dw i ddim yn licio hwn cymaint. “Dylai” Wicipedia bod yn ffrwd pur o’r platfform Wicipedia. Yn gyffredinol, yn fy marn i, os ti’n cael logo fel dy lun proffil, dylet ti feddwl am bwy ti’n cynrychioli – dy hun yn unig neu grŵp… Parhau i ddarllen Cymunedau, grwpiau ac unigolion ar Twitter

Rheoli defnydd iaith mewn rhwydweithiau cymdeithasol gan y llywodraeth

Yn dilyn ar thema tebyg i’r cofnod diwetha am WalesHome yn cyhoeddi erthyglau Cymraeg yn ogystal a Saesneg, dyma fi’n darllen cofnod blog o Gatalonia gan MarcG am reoli defnydd iaith mewn rhwydweithiau cymdeithasol gan y llywodraeth (mae cyfieithiad es>en yn fwy darllenadwy na ca>cy). Ynddo mae’n sôn am ddogfen canllaw gan Lywodraeth Catalonia er… Parhau i ddarllen Rheoli defnydd iaith mewn rhwydweithiau cymdeithasol gan y llywodraeth

Pwyllgor Safonau a Moeseg Cyngor Dinas Caerdydd yn trafod blogio a thrydar

Mae awdur Blog Guardian Caerdydd yn adrodd rhai o sylwadau aelodau’r pwyllgor: But Councillor Delme Bowen quickly chortled in with his belief Stockton’s point was ridiculous on account of the fact you cannot easily trace which laptops have been used to access which sites. Diawch, chi’n dysgu rhywbeth newydd pob dydd.