Dadansoddi cofnodion indigenoustweets.com

Dechreuais edrych ar gofnodion IndigenousTweets.com dros y Nadolig. Mae’r wefan yn dangos manylion am hyd at y 500 trydarwr mwyaf toreithiog mewn sawl iaith. Ar ôl edrych ar y 500 trydarwr Cymraeg es i gysylltiad â Kevin Scannell, y dyn sydd yn casglu’r data, a chael ganddo ddata tebyg ond ar gyfer y 8,274 cyfan y mae e wedi eu cofnodi. Rwy eisoes wedi trydar dolen siart bybl Google grëais:  trydarwyr Cymraeg. Mae eisiau i mi egluro beth sy ar yr echelin-y ar y chwith yn hwnnw: y gymhareb o drydariadau Cymraeg: trydariadau eraill (h.y. Saesneg bron bob tro) sy yno. Felly os yw rhywun yn trydar yn Gymraeg union hanner yr amser, ei gymhareb fydd 1. Mae pawb sy â chymhareb dros un yn trydar yn Gymraeg yn amlach nag yn Saesneg felly. (Defnyddiais raddfa log fel y gellir gweld y cyfan ar y siart.) @Niapostcyntaf sydd â’r gymhareb uchaf, gan i bob un o’i 144 trydariad fod yn Gymraeg. Mae maint y cylch yn y siart yn adlewyrchu’r nifer o drydariadau Cymraeg. @newyddcymraeg, ffrwd sy’n cyfuno ffrydiau newyddion eraill, yw’r mwyaf. Mae’r siart isod yn un ffordd o ddangos eu dosbarthiad:

Trydariadau Cymraeg, Mawrth 2006 - 20 Rhagfyr 2012
Trydariadau Cymraeg, Mawrth 2006 – 20 Rhagfyr 2012

Ymgais i ffitio dosbarthiad Zipf i’r data yw’r llinell syth. Does fawr o arwyddocâd iddo ond ei bod yn amlygu fod efallai fod tua’r 5000 trydarwr mwyaf toreithiog yn cynhyrchu mwy na’u siâr o drydariadau Cymraeg – neu, mewn geiriau eraill, y gellid fod wedi disgwyl mwy o drydariadau Cymraeg gan y gweddill. Tybed?

Troais yn ôl at ddata y 500 ac edrych ar ychydig o ieithoedd eraill. Dyma ges i:

Trydariadau 5 iaith
Trydariadau 5 iaith

Dim ond 380 sydd wedi trydar yng Ngaeleg yr Alban ond mae gan yr ieithoedd eraill mwy na 500 yr un. Bydd yn ddiddorol gweld, os caf y data, sut y maen nhw’n cymharu â’r Gymraeg. Mae’r siart isod yn crynhoi data y 500 yn unig. Gwelir bod cyfran uwch o drydariadau’r Basgiaid yn dueddol o fod yn y Fasgeg, i’w chymharu â chyfran Gymraeg y trydarwyr Cymraeg.

Dosbarthiad trydariadau 5 iaith
Dosbarthiad trydariadau 5 iaith

Gan Hywel Jones

Ysgrifennaf o'm rhan fy hun yma ran amlaf, nid yn rhinwedd fy swydd.