CarysMoseley yn trafod nodweddion academia.edu, rhywdwaith cymdeithasol ar gyfer academwyr.Rhyngwyneb yn Saesneg yn unig (a ddim yn anhebyg i Facebook – dilyn, postio ayyb), ond mae modd rhannu Paurau academaidd a gosod hysbyseb swyddi. Grwpiau am y Gymraeg arno, tua 60 aelod yn y grwp. Tudalennau ar gyfer sefydliadau hefyd ac mae hwythau yn gallu… Parhau i ddarllen BLOG BYW – SESIWN 2: academia.edu
BLOGIO BYW – SESIWN 1: 'Cyfrinair 'na yn Crap'
Bryn Salisbury yn trafod diogelwch. Cyngor ar gyfrineiriau heb newid am 20 mlynedd, ond cyfrifaduron wedi cyflymu cymaint fel geellr datrys yr holl ‘cyfuniadau’ mewn dim amser. Medru dyfalu miloedd y yfuniadau yr eiliad. Enghreifftiau o gyfuniadau o rifau a symbolau a llythrennau a faint o amser gymerith. Tydy defnyddio geriau Cymraeg ddim mwy diogel… Parhau i ddarllen BLOGIO BYW – SESIWN 1: 'Cyfrinair 'na yn Crap'
BLOGIO BYW – SESWIN 1: Apps Cyw
Sioned Mills yn trafod arlwy apps Cyw. Beth yw ymateb y cyhoedd? – Derbyn llawer o adborth positif annecdotal, o canran fechan iawn sy’n lawrlwytho yn gadael sylwadau/adolygiadau yn yr App Oes llawer o du allan i Gymru/DG yn eu defnyddio? Dim omdd gwahaniaethu ystadegau ar lefel Cymru, mond lefel DG. ‘Spikes’ ar gyfer UDA,… Parhau i ddarllen BLOGIO BYW – SESWIN 1: Apps Cyw
Firefox OS Cymraeg
Daeth parsel bach brown i’r tŷ wythnos ddiwethaf yn cynnwys ffôn bach oren llachar. Roedd y parsel yn cynnwys Geeksphone Keon wedi ei anfon gan Mozilla fel bod modd profi’r cyfieithiad Cymraeg ar system weithredu Firefox OS. Mae’r cyfieithiad Cymraeg ar gael ar y fersiwn nosweithiol o’r ddelwedd ac i’w gael oddi ar wefan Geeksphone.… Parhau i ddarllen Firefox OS Cymraeg
Haclediad #34: Youview, nhw-view a Haciaith 2014
Ar y rhifyn cyn-Haciaith 2014 yma bydd y Iestyn, Bryn a Sioned yn rhoi croeso gwresog i S4C i blatfform Youview; croeso a rhybydd i CEO newydd Microsoft, ac wrth gwrs cyffroi’n wirion cyn digwyddiad byw Hacio’r Iaith 2014 ym Mangor ar Chwefror y 15fed… welwn ni chi yno! Dolenni S4C ar Youview WebOS ar… Parhau i ddarllen Haclediad #34: Youview, nhw-view a Haciaith 2014
Microsoft Kodu yn Gymraeg: creu, chwarae a rhannu gemau ar Xbox360/Windows
Cymro sy’n gweithio i Microsoft ydy Stuart Ball. Mae fe wedi postio cofnod ar flog Microsoft i athrawon i ddatgan bod Kodu bellach ar gael yn Gymraeg mewn cydweithrediad a chyfieithwyr ifanc yn Ysgol Gyfun Bro Morgannwg. O’n i ddim yn gwybod beth yw Kodu a dweud y gwir. Mae hi’n iaith cyfrifiadurol a phlatfform… Parhau i ddarllen Microsoft Kodu yn Gymraeg: creu, chwarae a rhannu gemau ar Xbox360/Windows
Siart rhyngweithiol: % a nifer Cymraeg yn ôl dosbarth sosio-economiadd ac ward
Dw i wedi bod yn pori’r graffau o ddata’r cyfrifiad yma gan Hywel Jones ers sbel: Siart rhyngweithiol: % a nifer Cymraeg yn ôl dosbarth sosio-economiadd ac ward Dilynwch Hywel ar Twitter am ragor. Mae fe hefyd yn ystyried rhedeg sesiwn ar siartio yn Hacio’r Iaith 2014.
Ogwen360: prosiect ymchwil newyddion lleol yn ardal Dyffryn Ogwen
Siôn Richards, myfyriwr doethuriaeth Prifysgol Aberystwyth mewn cyd-weithrediad â Golwg360, sy’n trafod prosiect sy’n ran o’i ymchwil i newyddion lleol iawn trwy gyfrwng y Gymraeg. […] Ddydd Gwener diwethaf bu i mi lansio prosiect ymchwil newyddion lleol yn ardal Dyffryn Ogwen. Bwriad y prosiect yw darganfod strwythurau ar gyfer cynhyrchu cynnwys yn seiliedig ar wybodaeth… Parhau i ddarllen Ogwen360: prosiect ymchwil newyddion lleol yn ardal Dyffryn Ogwen
SWYDD: Cydlynydd Wicipedia, Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Cydlynydd Wicipedia Yn dilyn cytundeb cydweithio rhwng y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Wikimedia DU y mae’r Coleg yn dymuno penodi Cydlynydd Wicipedia fydd yn adrodd i swyddogion a Bwrdd Academaidd y Coleg ar sut orau y gellir rhannu adnoddau addysgol ar lwyfannau Wikimedia, gan gynnwys Wicipedia, o dan drwyddedau priodol. Bydd gennych gefndir academaidd gadarn,… Parhau i ddarllen SWYDD: Cydlynydd Wicipedia, Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Heb fod i Hacio’r Iaith ac isio gwybod beth i’w ddisgwyl? Dyma flas i chi…
Fideo gan Aled Mills o Hacio’r Iaith 2012