Dyma’r cyfeiriad angenrheidiol: http://www.microsoft.com/cy-GB/download/details.aspx?id=39307 Os oes angen cymorth ar faterion y Gymraeg a Windows roedd y cysylltiad canlynol yn ddefnyddiol: Rob Margel International Site Manager (UK, Canada, Australia & India) Windows – WEB SERVICES & CONTENT http://blogs.msdn.com/b/robmar/ – mae ‘na ffurflen gyswllt yna. Ydy hwn yn gweithio ar Windows 8.1 RT?
Awdur: Rhos Prys
Firefox OS Cymraeg
Daeth parsel bach brown i’r tŷ wythnos ddiwethaf yn cynnwys ffôn bach oren llachar. Roedd y parsel yn cynnwys Geeksphone Keon wedi ei anfon gan Mozilla fel bod modd profi’r cyfieithiad Cymraeg ar system weithredu Firefox OS. Mae’r cyfieithiad Cymraeg ar gael ar y fersiwn nosweithiol o’r ddelwedd ac i’w gael oddi ar wefan Geeksphone.… Parhau i ddarllen Firefox OS Cymraeg
WordPress 3.8 yn Gymraeg
Mae fersiwn harddaf a’r mwyaf coeth o WordPress newydd ei ryddhau. Ewch i WordPress Cymraeg – cy.wordpress.org. Os ydych yn rhedeg gwefan WordPress eisoes mi ddylech fod wedi cael hysbysiad. Mae’r cyfieithiad wedi bod ar gael ers yn hwyr neithiwr (13/12) felly os oeddech chi wedi diweddaru’n gynt mae angen ail ddiweddaru er mwyn cael… Parhau i ddarllen WordPress 3.8 yn Gymraeg
Gwahoddiad i sesiwn Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr yn yr Eisteddfod
Fe’ch gwahoddir yn gynnes i sesiwn flynyddol yr Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr, yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Mae’r sesiwn am 4 o’r gloch brynhawn Llun, y 5ed o Awst, ar stondin Prifysgol Bangor. Byddwn yn rhoi trosolwg o rai o uchafbwyntiau’r flwyddyn a’n projectau presennol, gan gynnwys yr ap Geiriaduron, safoni termau i ysgolion,… Parhau i ddarllen Gwahoddiad i sesiwn Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr yn yr Eisteddfod
XBMC: canolfan amlgyfrwng ar gyfer Windows, Apple OSX a Linux – yn Gymraeg
Mae XBMC yn feddalwedd canolfan amlgyfrwng a difyrrwch digidol(!). Mae ar gael ar gyfer Windows, Apple OSX a Linux a nawr yn Gymraeg! 🙂 Mae modd ei ddefnyddio ar gyfer gwylio rhaglenni oddi ar y we, lluniau personol a chasgliadau o gerddoriaeth. Mae’n feddalwedd perffaith ar gyfer creu peiriant sy’n ganolfan amlgyfrwng gan gynnal nifer… Parhau i ddarllen XBMC: canolfan amlgyfrwng ar gyfer Windows, Apple OSX a Linux – yn Gymraeg
WordPress 3.6 RC1
Mae WordPress RC1 ar gael nawr ar wefan cy.wordpress.org gyfer ei brofi. Y disgwyl yw y bydd y fersiwn terfynol ar gael ymhen rhyw bythefnos. Mwynhewch 🙂 Gwybodaeth bellach gan WordPress Sylwadau ar yr addasiad Cymraeg i post@meddal.com, os gwelwch chi’n dda.
Firefox OS: Cyfle i’r Gymraeg ar ffonau symudol
Mae Firefox OS Mozilla wedi cael cryn dipyn o sylw yn y Mobile World Congress, Barcelona ddiwedd Chwefror. Hyd yma mae sôn bod 17 o ddarparwyr gwasanaethau yn eu cefnogi yn ogystal â 4 gwneuthurwr ffôn gan gynnwys Alcatel, LG, ZTE a Sony. Mae pethau’n edrych yn addawol felly… Bwriad Mozilla a’i bartneriaid yw i… Parhau i ddarllen Firefox OS: Cyfle i’r Gymraeg ar ffonau symudol
Firefox Android Cymraeg
Mae Mozilla wedi bod yn edrych ar y dull gorau o ddosbarthu’r cyfieithiadau o Firefox Android sydd ganddynt ar Google Play. Mae’r ‘prif ieithioedd’ eisoes ganddynt ar gael. Mae’n edrych nawr fel eu bod yn barod i symud ymlaen gyda’r grŵp nesaf o ieithoedd. Hyd yma mae’r ieithoedd wrth gefn wedi bod ar gael ar… Parhau i ddarllen Firefox Android Cymraeg