Dathliad arbennig Firefox yfory!

Bydd Firefox yn dathlu diwrnod arbennig iawn yfory a hynny’n cynnwys y gwaith o ddarparu fersiwn yn Gymraeg. Cadwch lygad allan am wybodaeth am y dathliad ac yn y cyfamser ewch i wefan Gymraeg Mozilla i ddysgu rhagor am waith Mozilla a sut fedrwch chi gefnogi’r gwaith hwnnw.

Mae modd gosod Firefox yn Gymraeg ar eich cyfrifiadur Windows, Mac a Linux o’r wefan Gymraeg ac o Play Store, Google ar gyfer eich ffôn Android.