Cyflwyniad Gwych i LibreOffice

  Mae rhagor o wybodaeth am LibreOffice ar wefan Cymraeg LibreOffice. Diolch i Aled Powell am y trosleisio.  

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Gwefan Cymraeg LibreOffice – cy.libreoffice.org

LibreOffice yw un o brif gasgliadau offer swyddfa sydd ar gael ar gyfer cyfrifiaduron. Mae’r casgliad yn cynnwys yr holl offer angenrheidiol ar gyfer gwaith swyddfa: prosesydd geiriau, taenlen, rhaglenni cyflwyno, lluniadu a chronfa ddata, ac ati. Mae’r holl offer pwerus yma ar gael am ddim, ac yn Gymraeg drwy gyfrwng LibreOffice. Mae’n bosib eich… Parhau i ddarllen Gwefan Cymraeg LibreOffice – cy.libreoffice.org

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Diwrnod Preifatrwydd Data

Wel, mae heddiw’n ddiwrnod preifatrwydd data ac mae Mozilla wedi darparu rhywfaint o her ar ein cyfer i amlygu faint o breifatrwydd sydd gennym ar y we. Mae’r ddolen gyntaf yn Saesneg a’r ail yn Gymraeg. Private Eye –  mae hwn yn arbennig o ddifyr gyda gwefannau fel y Guardian, Telegraph, ac ati. Deall Preifatrwydd… Parhau i ddarllen Diwrnod Preifatrwydd Data

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Copïo yn Firefox 35

Mae’n bosib eich bod wedi sylwi ar wall sydd wedi dod i’r amlwg yn y cyfieithiad Cymraeg o Firefox 35. Mae’r gwall yn codi wrth i chi ddefnyddio’r cyfuniad Ctrl/Cmd a C er mwyn copïo darn o destun yn y ffenestr. Yn lle gwneud hynny mae’r copïo’r dudalen gyfan. Mae modd defnyddio’r dull canlynol i… Parhau i ddarllen Copïo yn Firefox 35

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

WordPress 4.1 Cymraeg ar gael nawr

Mae’r fersiwn diweddaraf ar gael un ai drwy fwrdd gwaith eich gwefan fydd yn eich annog i ddiweddaru neu o wefan Cymraeg WordPress. Mae WordPress yn dilyn cylch ryddhau fersiwn newydd bod 3-4 mis ac felly’n cynnig cyfle i gynnig nodweddion newydd yn ogystal â chynyddu’r diogelwch. Cofiwch ddiweddaru i’r fersiwn diweddaraf er mwyn sicrhau… Parhau i ddarllen WordPress 4.1 Cymraeg ar gael nawr

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Linux Mint 17.1 wedi ei ryddhau yn y Gymraeg

Dros y penwythnos ryddhawyd rhifyn newydd o un fersiynnau mwyaf poblogaidd o Linux, sef Linux Mint. Unwaith eto mae rhyngwyneb Linux Mint ar gael yn Gymraeg. Gyda bod y dosbarthiad wedi ei seilio ar Ubuntu mae’n cynnwys y deunydd Cymraeg o’r dosbarthiad hwnnw hefyd. Diolch i’r criw fu’n cyfrannu at y cyfieithiad Cymraeg

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Geiriadur Bangor – geiriadur.bangor.ac.uk

Erbyn hyn mae Geiriadur y BBC nôl yn fyw dan ei enw newydd Geiriadur Bangor. Mae wedi’i letya ar wefan Prifysgol Bangor ar http://geiriadur.bangor.ac.uk/. Cyfuniad yw e mewn gwirionedd o eiriadur cyffredinol Cysgair, sy’n rhoi geirfa gyffredin y Gymraeg a’r Saesneg, a Y Termiadur Addysg, sy’n rhoi termau wedi’u safoni ar gyfer addysg ysgol a… Parhau i ddarllen Geiriadur Bangor – geiriadur.bangor.ac.uk

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol