Mae erthygl ar Golwg360 o dan y teitl Llai o radio a theledu Cymraeg gan y BBC, yn trafod torriadau yn y nifer o oriau o ddarlledu cynnwys gwreiddiol fydd ar Radio Cymru ac bydd mwy o ail ddarlledu. Nid trafod y cwtogi ydw i eisiau yma (gellir gwneud hynny fan hyn), ond yn hytrach y… Parhau i ddarllen Llai o raglenni Cymraeg ar y radio (ond mwy yn fyw ar-lein)
Awdur: Rhys Wynne
Hwyl fawr Bloglines
Wrth fewngofnodi i fy nghyfrif Bloglines echnos, dyma’r neges a oedd yn fy nisgwyl i: As you may have heard, we are sorry to share that Bloglines will officially shut down on October 1, 2010. Dw i ddim yn cofio pryd y dechreuais ddilyn blogiau a gwefannau newyddion trwy wasanaeth Bloglines, ond fe drawsnewidioddy y… Parhau i ddarllen Hwyl fawr Bloglines
Rheoli defnydd iaith mewn rhwydweithiau cymdeithasol gan y llywodraeth
Yn dilyn ar thema tebyg i’r cofnod diwetha am WalesHome yn cyhoeddi erthyglau Cymraeg yn ogystal a Saesneg, dyma fi’n darllen cofnod blog o Gatalonia gan MarcG am reoli defnydd iaith mewn rhwydweithiau cymdeithasol gan y llywodraeth (mae cyfieithiad es>en yn fwy darllenadwy na ca>cy). Ynddo mae’n sôn am ddogfen canllaw gan Lywodraeth Catalonia er… Parhau i ddarllen Rheoli defnydd iaith mewn rhwydweithiau cymdeithasol gan y llywodraeth
Clonc Cwpan y Byd: Sgwrsio byd-eang mewn 11 iaith
Am 2:30pm heddiw (11eg o Fehefin) bydd arbrawf unigryw ar wefan BBC Cymru o’r enw Clonc Cwpan y Byd: Fel rhan o sylw’r BBC i Gwpan y Byd, ry’n ni am ddod â chefnogwyr at ei gilydd waeth pa iaith maent yn ei siarad. Mae Clonc Cwpan y Byd yn gyfle i fynd â hyn… Parhau i ddarllen Clonc Cwpan y Byd: Sgwrsio byd-eang mewn 11 iaith
Gwobrau Blogiau Cymru 2010
Enwebwch eich hunain neu eraill yma: http://walesblogawards.co.uk/
Cefn Gwlad, sadistiaeth Pwylaidd a phropoganda Islamaidd
Dw i ddim yn gwybod as mai melltith arall GoogleTranslate sy’n achosi hyn, ond yn ddiweddar wrth wneud chwiliadau am eiriau Cymraeg, dw i’n cael rhai canlyniadau digon anarferol, rhai yn ddigon anymunol. Weithiau, wrth chilio am bethau Cymraeg, mae’n fendith bod cynlleied o gynnwys Cymraeg ar-lein ac os yw’r wybodaeth chi eisiau ar gael… Parhau i ddarllen Cefn Gwlad, sadistiaeth Pwylaidd a phropoganda Islamaidd
Trafod blogiau Cymraeg ar raglen ‘Pethe’ ar S4C
Ar raglen Pethe heno roedd eitem yn trafod blogiau Cymraeg. Mae modd gwylio’r rhaglen ar wefan Clic S4C (eitem yn dechau ar 13:20). Ac oes, mae cofnod ar adran ‘Eitemau’ y gyfres ble gallwch adael sylw (ond nid ar y blog!).
Pwyllgor Safonau a Moeseg Cyngor Dinas Caerdydd yn trafod blogio a thrydar
Mae awdur Blog Guardian Caerdydd yn adrodd rhai o sylwadau aelodau’r pwyllgor: But Councillor Delme Bowen quickly chortled in with his belief Stockton’s point was ridiculous on account of the fact you cannot easily trace which laptops have been used to access which sites. Diawch, chi’n dysgu rhywbeth newydd pob dydd.
Adolygiad o’r dydd: http://gwenudanfysi…
Adolygiad o’r dydd: http://gwenudanfysiau.blogspot.com/2010/01/wedi-hacior-iaith.html
Newydd weld cyflwyniad Gruffydd Prys am …
Newydd weld cyflwyniad Gruffydd Prys am y ferswin Cymraeg o’r gêm Civilization IV, mwy ar ei wefan: http://www.civilizationcymraeg.com/wordpress/