Cefn Gwlad, sadistiaeth Pwylaidd a phropoganda Islamaidd

Dw i ddim yn gwybod as mai melltith arall GoogleTranslate sy’n achosi hyn, ond yn ddiweddar wrth wneud chwiliadau am eiriau Cymraeg, dw i’n cael rhai canlyniadau digon anarferol, rhai yn ddigon anymunol.

Weithiau, wrth chilio am bethau Cymraeg, mae’n fendith bod cynlleied o gynnwys Cymraeg ar-lein ac os yw’r wybodaeth chi eisiau ar gael mae i’w gael ymysg llond dwrn o ganlyniadau – yr unig adeg pan nad yw hyn yn wir yw pan fydd gan air Cymraeg hyfyd ystyr gwahanol mewn iaith arall (alla i ddim meddwl ma enghriafft wrth sgwennu hwn).

Ta waeth, heddiw, chwiliais am treilars, cefn gwlad (peidiwch gofyn pam), a dyma un o’r canlyniadau
ANADDAS I’R GWEITHLE
http://www.sadistic.pl/cy/wiejskie-wesele-vt32239.htm

Falle sylwch o’r URL y lythrennau ‘cy’ yn dynodi fersiwn Cymraeg, dychmyga i fod cyfieithiad o’r wefan yma ar gael mewn sawl iaith arall.

Ar fwy nag un achlysur, dw i wedi bod yn cael canlyniadau tebyg ar gyfer gwefan Islamaidd.

Falle bod hwn yn swnio’n gwestiwn twp, ond ydy’r tudalennau a’r cynnwys yma’n bodoli’n barod, neu ydyn nhw jyst yn ymddangos yn awtomatig bron wrth i mi greu chwiliad Google ac yna clicio arnynt – ydy fy nghwestiwn yn gwneud sens?

7 sylw

  1. Ydi, mae’n gwneud synnwyr.

    Chwiliais am sawl beth yn ddiweddar, gyda chanlyniadau cymysg o’r Gymraeg a’r Saesneg yn ymddangos a wefannau trafod gyda ‘/cy/’ yn y cyfeiriad. Dwi’n meddwl fod Google Translate yn gyfrifol a hyd yn oed pecynnau iaith meddalwedd negesfyrddau. Bosib bod Google bellach yn darllen iaith y porwr ac yn arddangos canlyniadau sy’n berthnasol i’r iaith.

    Bosib bod Google Translate wedi galluogi rhai datblygwyr meddalwedd i ‘ddatblygu’ pecynnau iaith i’w hunain.

    Gweler: http://www.google.com/search?client=safari&rls=en&q=hacio+sony+ericsson&ie=UTF-8&oe=UTF-8

    Chwiliad Google am “hacio sony ericsson”.

  2. Dwi’n meddwl bod hwnna’n enill y wobr am y teitl mwyaf epic gan flog Cymraeg eleni. Efallai yn hanes blogiau Cymru.

    Oedd y ddelwedd y Dai yn brwydro’r infidel yn Łódź wedi’i arfogi gyda dim byd ond arseless chaps PVC a bullwhip yn un rhy dda o lawer.

  3. Dw i ddim yn siwr pa un o’r tri yw’r bygythiad mwyaf i foesau/ffordd o fyw y Gorllewin.

  4. Ie wedi sylwi ar hyn ers tipyn. Mae pawb nawr yn gallu gosod ategynnau sy’n cyfieithu eu blog/gwefannau yn awtomatig i bob iaith dan haul (neu’r ieithoedd mae Google yn gyfieithu). Mae hyn yn beryglus iawn am ei fod yn boddi gweddill cynnwys Cymraeg ‘go iawn’ sydd ar y we, a fe allai wthio cynnwys gwreiddiol allan o’r canlyniadau.

    Efallai y bydd Google yn sylwi ar y broblem ac yn addasu ei algorithm fel y wnaethon nhw i’r afael a gwefannau sbam oedd yn creu cynnwys ar hap, ond dwi ddim yn gweld ei fod yn hawdd gwneud hyn.

  5. “Mae hyn yn beryglus iawn am ei fod yn boddi gweddill cynnwys Cymraeg ‘go iawn’ sydd ar y we, a fe allai wthio cynnwys gwreiddiol allan o’r canlyniadau.“

    Dyna ydy fy mhryder i.

Mae'r sylwadau wedi cau.