Diweddglo Hacio’r Iaith 2012 – bydd yn aelod o’r blog

Neges i bobol wnaeth dod i Hacio’r Iaith 2012 ddoe (ac alumni!)…

Os wyt ti wedi dod i unrhyw Hacio’r Iaith mae croeso i ti cael cyfrif dy hun ar haciaith.cymru. Gadawa sylw dan y cofnod blog hwn i wneud cais am gyfrif. (Er dyw’r system ddim yn cyhoeddi dy gyfeiriad ebost dw i’n gallu ei gweld yn y cefndir.)

fe-flogiwn-ni-eto gan huw prestatyn

Rydyn ni’n blogio i:
rhannu nodiadau
postio fideos/dolenni/awdio (Yr Haclediad)
parhau gyda syniadau a phrosiectau
gofyn/ateb cwestiynau
trefnu sesh lleol Hacio’r Iaith Bach mewn pyb
ac ati

Mae’r blog Hacio’r Iaith ar sail WordPress, mae’n weddol hawdd i’w defnyddio (ac mae help ar gael os ti’n styc).

Mewn ffordd mae’r gymuned Hacio’r Iaith yn parhau trwy’r flwyddyn ar y blog, ar y we ac unrhyw bryd mae pobol eisiau cwrdd i drafod technoleg a Chymraeg ledled Cymru.

8 sylw

  1. Gareth, dydyn ni ddim yn rhoi cyfrifon i bobol sydd ddim wedi dod. Mae rhaid cael rhyw fath o linell. Does dim eithriadau. Diolch i ti am y sylwadau.

Mae'r sylwadau wedi cau.