S4C Clic yn darparu API o ddata rhaglenni

Wyddoch chi fod S4C Clic yn darparu API, ers sbel nawr? Mae’n cynnig ffordd hawdd o gael metadata am sioeau mewn fformat JSON. Dyma fanylion ar Hedyn ar sut i ddefnyddio’r API. Gadewch wybod os ydych chi’n creu unrhyw beth gyda fe, neu os oes gennych syniad. Er enghraifft mae’r bot Twitter newydd Clic Off… Parhau i ddarllen S4C Clic yn darparu API o ddata rhaglenni

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel post Cofnodion wedi'u tagio , ,

HEDDIW: Gweithdy Mapio Cymru, Eisteddfod AmGen 2021

Dw i wedi blogio ar wefan Mapio Cymru: Dyma gyflwyniad i brosiect Mapio Cymru sydd yn creu map o Gymru gydag enwau llefydd yn Gymraeg. Yn ystod y sesiwn bydd cyfleoedd i chwarae gyda’r map, darganfod enwau a lleoliadau, ac i gyfrannu gwybodaeth at y genhedlaeth nesaf o apiau mapiau Cymraeg. Mae’r gwaith yn berthnasol… Parhau i ddarllen HEDDIW: Gweithdy Mapio Cymru, Eisteddfod AmGen 2021

Golygathon Wicipedia ar gyfer Wici’r Holl Ddaear 2021 (nos Wener 16/07/2021)

Dyma fanylion am ddigwyddiad hwyl nos Wener yma: Golygathon Wicipedia ar gyfer Wici’r Holl Ddaear 2021 Cyfle i ddefnyddio rhai o’r lluniau newydd i greu a gwella erthyglau Wicipedia am gadwraeth natur yng Nghymru. Bydd hyn yn sesiwn anffurfiol ar-lein gyda hyfforddiant i ddefnyddwyr newydd yn ôl y galw Croeso cynnes i bawb. Does dim… Parhau i ddarllen Golygathon Wicipedia ar gyfer Wici’r Holl Ddaear 2021 (nos Wener 16/07/2021)

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel post Cofnodion wedi'u tagio

Newid thema Hacio’r Iaith

Dw i wedi newid y thema y wefan am y tro achos oedd yr hen thema (P2 + newidiadau) yn achosi gwallau ar WordPress a PHP8.

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol Cofnodion wedi'u tagio ,

Hacio’r Iaith yn cyflwyno: Mapio Cymru – Ymgolli mewn Map o Gymru (20 Tach, 6:30pm)

Hoffech chi ddysgu mwy am fapio cyfrwng Cymraeg? Oes gennych enwau Cymraeg ar gyfer ffermydd, caeau, traethiau, ac adeiladau yn eich ardal sydd angen eu cofnodi? Ydych chi eisiau cyfrannu at y genhedlaeth nesaf o dechnolegau sy’n manteisio ar fapiau Cymraeg agored – o addysg i hanes i lywio i weithgareddau awyr agored? Dewch i’r… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith yn cyflwyno: Mapio Cymru – Ymgolli mewn Map o Gymru (20 Tach, 6:30pm)

Hacio'r Iaith yn cyflwyno: Hacio Bach, gyda'r Uned Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor

Yn amlwg does dim digwyddiadau Hacio’r Iaith yn y cnawd ar hyn o bryd, felly diolch i Uned Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor am gynnig darparu hanner diwrnod o sgwrsio, dysgu, a chwarae ar-lein. Bydd croeso cynnes i bawb. Rydyn ni’n mynd i gynnal digwyddiad bach ar-lein – rhyw fath o Hacio Bach – ar y… Parhau i ddarllen Hacio'r Iaith yn cyflwyno: Hacio Bach, gyda'r Uned Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor

Peintio’r byd technoleg yn Gymraeg: gwahoddiad wrth Gymdeithas yr Iaith

Dyma wahoddiad i chi fynychu trafodaeth ymarferol ar y Gymraeg yn y byd(oedd) technoleg: newid polisïau’r corfforaethau mawrion rhyngwynebau Cymraeg meddalwedd Gymraeg platfformau apiau a mwy Y nod yw i gytuno ar weithredoedd ymgyrchu penodol tuag at gael mwy o Gymraeg yn y technolegau rydych chi’n defnyddio bob dydd. Mae croeso cynnes i bawb gymryd… Parhau i ddarllen Peintio’r byd technoleg yn Gymraeg: gwahoddiad wrth Gymdeithas yr Iaith

Dewch i’r Hacathon Hanes, 11 Chwefror 2020, Aberystwyth

Es i i’r Hacathon Hanes diwethaf ac roedd hi’n diwrnod ardderchog ac ysbrydoledig – o ddatblygwyr, pobl data, haneswyr, ymchwilwyr, pobl chwilfrydig, ac eraill yn dod at ei gilydd i geisio canfod dulliau o ddarganfod a chyfleu hanes mewn ffyrdd newydd. Mae trefnwyr yr Hacathon Hanes wrthi eto, yn Aberyswyth y tro hwn, ac wedi… Parhau i ddarllen Dewch i’r Hacathon Hanes, 11 Chwefror 2020, Aberystwyth

Common Voice, adnabod lleferydd, cyfieithu a mwy… Gweithdy ar y Porth Technolegau Iaith

Bydd rhai eisoes wedi gwylio’r rhaglen ddifyr ar S4C DRYCH: Achub Llais John am un o brosiectau’r Uned Technolegau Iaith ym Mangor. Gwyliwch y rhaglen os nad ydych chi wedi cael siawns eto. Dyma ddigwyddiad difyr yn Aberystwyth mae’r uned yn trefnu ym mis Mehefin – at sylw unrhyw un sydd eisiau cael profiad o… Parhau i ddarllen Common Voice, adnabod lleferydd, cyfieithu a mwy… Gweithdy ar y Porth Technolegau Iaith