Peintio’r byd technoleg yn Gymraeg: gwahoddiad wrth Gymdeithas yr Iaith

Dyma wahoddiad i chi fynychu trafodaeth ymarferol ar y Gymraeg yn y byd(oedd) technoleg:

  • newid polisïau’r corfforaethau mawrion
  • rhyngwynebau Cymraeg
  • meddalwedd Gymraeg
  • platfformau
  • apiau
  • a mwy

Y nod yw i gytuno ar weithredoedd ymgyrchu penodol tuag at gael mwy o Gymraeg yn y technolegau rydych chi’n defnyddio bob dydd.

Mae croeso cynnes i bawb gymryd rhan. Nodwch argaeledd yma os gwelwch yn dda.

Cyfarfod o’r Is-grŵp Digidol ydy hyn – i drafod y materion penodol uchod, a materion cysylltiedig.

(Nodwch fod y prif grŵp yn canolbwyntio ar ddarlledu a chyllid ar gyfer cynnwys darlledwyr yn bennaf, ac mae pwyslais yr Is-grŵp fel yr uchod.)