HEDDIW: Gweithdy Mapio Cymru, Eisteddfod AmGen 2021

Dw i wedi blogio ar wefan Mapio Cymru:

Dyma gyflwyniad i brosiect Mapio Cymru sydd yn creu map o Gymru gydag enwau llefydd yn Gymraeg.

Yn ystod y sesiwn bydd cyfleoedd i chwarae gyda’r map, darganfod enwau a lleoliadau, ac i gyfrannu gwybodaeth at y genhedlaeth nesaf o apiau mapiau Cymraeg.

Mae’r gwaith yn berthnasol i addysg, hamdden, gwaith, treftadaeth a’r gymuned – a hanes.

Bydd y trefnwyr yn disgrifio sut mae’r prosiect yn manteisio ar adnoddau agored a rhydd ar y we megis OpenStreetMap a Wicipedia/Wikidata, a’r hyn rydych chi’n gallu gwneud i gymryd rhan yn yr hwyl.

Nid oes angen unrhyw brofiad na dealltwriaeth o flaen llaw, dim ond chwilfrydedd!

dydd Iau 5ed Awst 2021
3PM tan 4PM

Ewch i wefan Mapio Cymru am fanylion llawn