Trendio ar Twitter? Angen tweet tua bob 19 eiliad

Dydd Sadwrn cafodd y testun S4C ei chofrestru ar “Trending topics”, y gofrestr DU o bynciau poblogaidd ar Twitter. Ffactor pwysig oedd penderfyniad BBC i ddangos tennis yn lle rygbi felly roedd pobol yn cwyno ac awgrymu S4C fel sianel amgen i wylwyr BBC. Wrth gwrs mae pobol yn postio negeseuon gyda’r testun S4C trwy’r amser ond dyw’r niferoedd ddim wedi bod yn ddigon mawr am drendio hyd yn hyn.

Beth yw “digon mawr”? Wel mae’r tweets dal ar gael trwy chwilio.

Bydd rhaid i ni ddewis tweet i ddod cyntaf. Dyn ni’n gallu bod yn eitha sicr yma.

Yn ôl trefn gronolegol, tweets gyda chyfeiriad i S4C:
3:55PM http://twitter.com/theambassador61/statuses/8549435290165248
4:58PM http://twitter.com/sgorio/statuses/8565365332254720
4:59PM http://twitter.com/sgorio/statuses/8565520852848640
5:05PM http://twitter.com/Flintaxe/statuses/8566995188453376

Y tweet 5:05PM gan Flintaxe yw’r cyntaf gyda chyfeiriad i’r BBC ac S4C. Ac wedyn mae lot o dweets am y pwnc yn dilyn, gyda rhai S4C am bynciau eraill. Mae Twitter yn cyfrif unrhyw tweet gyda S4C, paid anghofio. Maen nhw i gyd yn cyfrannu at y pwnc sy’n trendio (sori).

Pryd ddechreuodd y trend? Dw i ddim yn gwybod yn sicr ond mae’r cyfeiriad cyntaf i’r trend yn eitha deg – fel canllaw. Mae’n dibynnu ar y person cyntaf i dynnu sylw a phostio rhywbeth.

5:43PM – y tri cyfeiriad cyntaf i’r trend


http://twitter.com/Lucycake/statuses/8576722316296193
http://twitter.com/smileyrhi/statuses/8576645103357953

Gwnes i gyfrif 121 tweet rhwng y ddau, yn ystod cyfnod 38 munud. Felly os mae unrhyw destun yn mwynhau 3.18 cyfeiriad bob munud am 38 munud, dylet ti ei ddisgwyl e ar y gofrestr. Neu tweet tua bob 19 eiliad am 38 munud.

Rhaid i ni gymryd bod e’n ddiwrnod fel Dydd Sadwrn gyda nifer debyg o ddefnyddwyr a chystadleuaeth debyg.

Cwestiynau: ydy Twitter yn cyfrif tweets gan cyfrifon ar gau? Beth am 2 tweet gan yr un cyfrif? Beth am RTs? Ydy’r enghraifft yma yn boblogaidd iawn iawn neu dim ond eitha poblogaidd yn y DU?

Siwr o fod lot o bynciau mwyaf pwysig na trendio yn y DU yn bodoli. Fydd e ddim yn achub S4C ar ei ben ei hun(!). O’n i eisiau rhannu hwn am dy wybodaeth beth bynnag.

1 sylw

  1. Diolch am y dadansoddiad! Mae’n eitha diddorol i ddyfalu beth yw’r algorithm. Os oedden nhw’n cyfri RTs dwi’n credu y bydde rhaid rhannu’r nifer gyda rhyw ffactor arall (y nifer o RTs unigryw arall sydd yn digwydd ar y pryd?). Er enghraifft os yw’r BBC, Broadcast neu y Guardian yn cyhoeddi stori am S4C, fe fydd nifer o bobl yn ei RTio, ond hefyd degau o bots a chyfrifon sbam. Mae’r cyfrifon yn gwneud hynny i storiau eraill hefyd, felly does dim trend yn codi – mae’ na broses de-duplication yn digwydd.

    Wrth fesur trend, mae’n rhai iddyn nhw anwybyddu set o eiriau cyffredin, a mae S4C yn enw unigryw fyddai’n cael ei gyfri. Os yw enw neu ymadrodd yn dechrau ymddangos yn aml, ydyn nhw wedyn yn cymharu pa mor wahanol yw’r trydar? Os ydyn nhw yn union yr un testun, mae nhw’n RTs neu bobl yn copio neges (neu cyfrifon sbam). Fe ddylai fod sgor uwch i’r negeseuon unigryw felly a llai i’r copiau.

    Dwi ddim yn edrych ar y rhestr trendio yn aml iawn ond o be dwi wedi weld, dyw e ddim yn adlewyrchu storiau newyddion neu rhyw sylw neu ddolen sy’n cael ei RTio filoedd o weithiau. Yn hytrach mae’n dibynnu ar nifer uchel o sylwadau unigryw a gwahanol ar yr un pwnc, sy’n dechrau mewn ffordd ‘organig’ efallai.

Mae'r sylwadau wedi cau.