Ydych chi wedi cyfrannu at gyfieithu Facebook i’r Gymraeg? Mae’r academydd Leighton Andrews yn gweithio ar astudiaeth o Facebook, ac wedi gofyn i mi helpu trwy basio’r cwestiynau isod ymlaen at sylw unrhyw un sydd wedi cyfrannu at gyfieithu rhyngwyneb Facebook. Anfonwch eich atebion i’r cwestiynau at AndrewsL7@cardiff.ac.uk os gwelwch yn dda. Sut ddaethoch chi’n… Parhau i ddarllen Ymchwil ar Facebook gan Leighton Andrews
Tag: cyfieithu
Cynhadledd Prifysgol Bryste ar gyfieithu peirianyddol
Dw i newydd weld manylion o’r gynhadledd hon ar gyfieithu peirianyddol. Unrhyw ddiddordeb?
Berfenwau v Gorchmynion amhersonol – sut i gyfieithu meddalwedd ar Translatewiki
Trafodaeth ar y Wicipedia Cymraeg ynglŷn â chynnig i newid cyfieithiadau Cymraeg ar Translatewiki i ddefnyddio berfenwau yn hytrach na gorchmynion amhersonol. Yn ogysatal a’r Wicipedia Cymraeg (a bwerir gan feddalwedd MediaWiki) mae cyfieithiadau Translatewiki hefyd yn bwydo sawl math o feddalwedd/gwefan arall.
Dywedwch Shwmae Su'mae drwy Skype yn Gymraeg
Mae rhyngwyneb Cymraeg nawr ar gael ar gyfer Skype, rhaglen rydym i gyd yn gwybod amdano ac sydd hefyd yn ei wneud yn hawdd iawn i newid ac addasu iaith ei ryngwyneb. 1. Lawrlwythwch y ffeil iaith (ffeil testun .lang 347KB) 2. Yn newislen Skype, dewiswch Offer>Newid Iaith>Ychwanegu Ffeil Iaith Skype (canllaw gyda sgrinluniau)(Tools>Change Language>Add… Parhau i ddarllen Dywedwch Shwmae Su'mae drwy Skype yn Gymraeg
Orbot
Gyda’r holl sôn am NSA a GCHQ, efallai y byddwch am ystyried defnyddio Orbot a’i borwr Orweb os oes dyfais Android gyda chi: https://guardianproject.info/apps/orbot/ Ac, yn amserol iawn ar ôl cofnod Aled am borth ieithoedd Microsoft, efallai y byddwch am gyfrannu at ei gyfieithu i’r Gymraeg: https://www.transifex.com/projects/p/orbot/
Porth Ieithoedd Microsoft: Adnodd terminoleg Cymraeg
Os ydych yn cyfieithu unrhyw beth ym maes TG neu jyst eisiau gwybod beth yw gair neu derm technegol yn Gymraeg, Saesneg neu un o ddwsinau o ieithoedd eraill, gall Porth Ieithoedd Microsoft fod o gymorth mawr i chi. http://www.microsoft.com/Language Mae’r adnodd ar gael ers peth amser, ond does dim sôn wedi bod amdano yma… Parhau i ddarllen Porth Ieithoedd Microsoft: Adnodd terminoleg Cymraeg
Cyfieithu Disqus
Fel rhywun wnaeth gyfrannu at gyfieithu rhyngwyneb Disqus yn y gorffennol, ges i ebost ganddyn nhw heddiw’n dweud eu bod wedi newid gwefannau/widgets ac angen cyfieithu o’r newydd. Dwi’n gweld mwy o flychau sylwadau Facebook na rhai Disqus dyddia ma felly dwn i ddim faint o flaenoriaeth ydi hwn mewn gwirionedd. Ond dyma’r ddolen os oes… Parhau i ddarllen Cyfieithu Disqus
Lansio gwasanaeth Cyfieithu Anarchaidd Ar-lein
Newydd gweld enghraifft diddorol yma o gyfieithu torfol a phrawfddarllen: Mae Anarchwyr De Cymru, Croes Ddu Caerdydd, Bwyd Nid Bomiau Cymru, Rhwydwaith Sgwatwyr Caerdydd a grwpiau tebyg angen gwasanaeth cyfieithu Cymraeg effeithiol a chyson. Mae’r rhestr ebyst welshtranslation@lists.riseup.net yn un o gyfieithwyr gwirfoddol sy’n medru gwneud y gwaith yma. Byddwn ond yn cyfieithu: Dogfennau /… Parhau i ddarllen Lansio gwasanaeth Cyfieithu Anarchaidd Ar-lein
Ma Merlyn Cooper yn cyfieithu y cleient Twitter ‘Turpial’ – all unrhwyun ei helpu?
@Nwdls Hey, ro'n i bod cyfieithu "Turpial" client am Trydar. Allet ti edrych dros fy nghwaith os gwelwch yn dda?http://t.co/1fJi5IiM — Merlyn Cooper (@Merlyn_Dytani) December 13, 2012 Rhowch wybod iddo
Prosiect rhyngwyneb Reddit Cymraeg
Mae’r platfform sgwrs/rhannu dolenni Reddit newydd lansio prosiect cyfieithu’r rhyngwyneb i sawl iaith gwahanol gan gynnwys Cymraeg. Os wyt ti’n chwilfrydig am Reddit ac eisiau cael profiad cyntaf mae is-reddit o’r enw Cymru.