Cwmniau yng Nghymru: dim digon o bresennoldeb ar y we, yn ôl Google

Search engine Google claims Welsh businesses are trailing behind the rest of the UK because of a lack of internet presence.

It says 25% of small and medium-sized firms in Wales have no website and only 58% have a “high web presence”.

http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-11637790

Sori o’n i’n methu ffeindio erthygl yn Gymraeg.

Cyfle i rhywun? Gwasanaeth hawdd “gwefan mewn bocs” gydag enw parth, gwesteia a thempledi.

2 sylw

  1. Cyfle i rhywun? Gwasanaeth hawdd “gwefan mewn bocs” gydag enw parth, gwesteia a thempledi.

    Am gyfnod, bu Aran Jones (SaySomethinInWelsh) yn cynnig gwasanaeth e-bost Cymraeg (o’r enw Sgwarnog) ac roedd hefyd yn creu gwefannau syml i fusnesau a sefydliadau Cymraeg, (yn defnyddio WordPress byddi di’n falch o glywed!). Roedd ganddo fodel busnes reit diddorol, ble reodd y wefan, llety ac enw parth am ddim, dw i’n credu, ond bod chi’n talu ffigwr misol (am oes) wedyn. Yna, os oeddech yn awgrymu ffrind/busnes arall, roeddech yn cael eich gwefan chi’n rhatach/am ddim.

    Fedra i ddim deud mod i’n meddwl lot o’u gwefannau nhw, ond mae’r cwmni yma yn cynnig gwefannau am ddim.

  2. Dwi’n blino ar y math o ‘ymchwil’ sy’n cael ei wneud gan cwmni anferth sydd eisiau gwerthu mwy o hysbysebion.

    Mae yna lawer iawn o fusnesau bach yng Nghymru sy’n gwasanaethu poblogaeth lleol. Mae pawb yn lleol yn gwybod eu bod nhw’n bodoli neu mae busnes yn lledu drwy argymhellion ffrindiau a theulu. Mae’n dibynnu pa faes wrth gwrs ond dyw’r rhan fwyaf o fusnesau bach yma ddim eisiau cwsmeriaid o bob man yn y byd, dim ond mewn ardal leol.

    Does dim angen gwefan ar y busnesau yma. Mae cofnod yn Yell, Google ”lleol’ neu lleol.net yn hawdd wrth gwrs. Efallai hyd yn oed parth ac ebost, ond dwi ddim yn gweld y pwynt o dalu am wefan fydd byth yn cael ei ddiweddaru.

Mae'r sylwadau wedi cau.