Dyma nodyn bach sydyn i’ch atgoffa bod Diwrnod Ada Lovelace yn digwydd ddydd Mawrth 11fed o Hydref 2016. Mae’r diwrnod yn gyfle i bostio rhywbeth ar y we am lwyddiannau menywod yn y meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Beth am gymryd rhan drwy drydar, blogio neu bostio am fenyw rydych chi’n edmygu? Mae rhagor… Parhau i ddarllen Diwrnod Ada Lovelace 2016 #diwrnodAdaLovelace
Categori: Amrywiol
Hacio'r Iaith 2017? Angen adborth
Tri chynnig: 1. Oes gennych chi awydd mynychu a chymryd rhan mewn digwyddiad Hacio’r Iaith yn 2017? Dyma fydd yr wythfed digwyddiad mawr o’r fath – digwyddiad anffurfiol ar Gymraeg a thechnoleg i oddeutu 60 o bobl. Byddai croeso cynnes i bawb. 2. Rydyn ni’n edrych at Fangor fel lleoliad y tro yma. Rydyn ni… Parhau i ddarllen Hacio'r Iaith 2017? Angen adborth
Macsen ar Radio Cymru!
Mae Macsen, y cynorthwywr digidol a’i ffrind gorau, Dewi Bryn Jones i’w clywed ar rhaglen radio Dinasoedd ar iPlayer y BBC . Mae’r eitem yn trafod slogan yr Uned Technoleg Iaith – Trwy Ddulliau Technoleg, a Macsen yn cychwyn tua 21:30 munud i fewn i’r rhaglen ond mae’n werth gwrando ar y rhaglen gyfan. Mae’r… Parhau i ddarllen Macsen ar Radio Cymru!
Diodydd Hacio’r Iaith #steddfod2016
Ydych chi’n mynychu Eisteddfod Y Fenni 2016? Bydd criw ohonom ni yn cwrdd am ddiodydd ar y maes ar y dydd Mercher. Bydd croeso cynnes i bawb. Does dim agenda. Bydd hi’n gyfle i sgwrsio â phobl eraill sy’n hoffi: defnyddio’r we a’r chyfryngau digidol yn Gymraeg memynnau, fideo, cynnwys apiau gemau ymgyrchu ar y… Parhau i ddarllen Diodydd Hacio’r Iaith #steddfod2016
S4C – Sianel Pwy? #steddfod2016
Dyma wybodaeth wrth Gymdeithas yr Iaith Gymraeg am drafodaeth yn Eisteddfod Genedlaethol 2016 sy’n siŵr o gynnwys triniaeth o’r we a chyfryngau digidol: Annwyl gyfaill, Yn yr Eisteddfod byddwn yn cynnal cyfarfod cyhoeddus i drafod adolygiad Llywodraeth Prydain o S4C yn 2017, gan gynnwys mentrau digidol newydd posib a materion cynnwys megis polisi is-deitlau’r sianel.… Parhau i ddarllen S4C – Sianel Pwy? #steddfod2016
Ysgoloriaeth PhD Technoleg Lleferydd
Oes unrhyw un o ffrindiau Hacio’r Iaith yn awchu am y cyfle i wneud PhD ym maes Technoleg Lleferydd Cymraeg? Dyma’ch cyfle! Rhagor o wybodaeth ar https://www.bangor.ac.uk/doctoral-school/kess/scholarship.php.cy
Holiadur BydTermCymru
I’r rhai sy’n licio terminoleg a chyfieithu, Llywodraeth Cymru yn dweud: O fis Mehefin ymlaen byddwn yn gweithio ar Gam 2 gwefan BydTermCymru – sef cywiro’r gwallau technegol sy’n weddill ac efallai wneud rhai addasiadau i’r dyluniad. Y cam nesaf wedi hynny fydd mynd ati i fireinio’r adnoddau sydd ar gael ar y wefan, a… Parhau i ddarllen Holiadur BydTermCymru
Nominet yn gofyn am atebion wrth ddefnyddwyr yng Nghymru
Nominet yw’r corff sy’n rheoleiddio’r enwau parth .cymru a .wales. Maent yn cynnal ymchwil ar yr enwau parth .cymru a .wales ac wedi gofyn i mi rannu arolwg byr o ymwelwyr â gwefan Hacio’r Iaith ar ei rhan. Mae cyfle i roi adborth iddynt yma: http://bit.ly/arolwgnominet2016 Os ydych chi’n llenwi’r arolwg byr hwn mi fydd… Parhau i ddarllen Nominet yn gofyn am atebion wrth ddefnyddwyr yng Nghymru
WordPress 4.5
Mae’r fersiwn diweddaraf o WordPress wedi ei ryddhau. Cofiwch ddiweddaru! Mae’n cynnwys diweddariadau diogelwch yn ogystal â nodweddion newydd. Gyda lansio WordPress 4.5 mae’n gyfle i edrych yn ôl ar berfformiad Cymraeg WordPress 4.4. Mae’r ystadegau llwytho i lawr yn dangos 250 o becynnau ryddhau a 3,369 pecyn iaith hyd heddiw. Mae’r cofnod ar haciaith.cymru… Parhau i ddarllen WordPress 4.5
Hacio’r Iaith 2016 Caerdydd – manylion a chofrestru
Bydd Hacio’r Iaith 2016, ein seithfed digwyddiad blynydddol, yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd am y tro cyntaf. Y dyddiad i’w roi yn eich dyddiadur yw: dydd Sadwrn 16 Ebrill 2016 9yb tan 5yp a’r lleoliad yw: Adeilad Hadyn Ellis, Prifysgol Caerdydd, Ffordd Maindy, Cathays, Caerdydd, CF24 4HQ Mae’n gyfle gwych i gyflwyno eich gwaith,… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith 2016 Caerdydd – manylion a chofrestru