Holiadur BydTermCymru

I’r rhai sy’n licio terminoleg a chyfieithu, Llywodraeth Cymru yn dweud:

O fis Mehefin ymlaen byddwn yn gweithio ar Gam 2 gwefan BydTermCymru – sef cywiro’r gwallau technegol sy’n weddill ac efallai wneud rhai addasiadau i’r dyluniad.

Y cam nesaf wedi hynny fydd mynd ati i fireinio’r adnoddau sydd ar gael ar y wefan, a datblygu adnoddau newydd.

Er mwyn sicrhau y byddwn yn canolbwyntio ar y gwelliannau pwysicaf, ac yn datblygu ein hadnoddau yn y modd mwyaf defnyddiol i gyfieithwyr Llywodraeth Cymru a’r sector cyhoeddus yn ehangach, rydym wedi lansio holiadur ar wefan SurveyMonkey. Fe’ch anogwn i fanteisio ar y cyfle hwn i ddylanwadu ar ffurf a chynnwys BTC at y dyfodol, gan gofio y caiff eich sylwadau eu casglu’n gwbl ddienw.

[…]

Ewch i’r eitem am Holiadur BydTermCymru ar eu gwefan am ragor o wybodaeth