Dyma nodyn bach sydyn i’ch atgoffa bod Diwrnod Ada Lovelace yn digwydd ddydd Mawrth 11fed o Hydref 2016.
Mae’r diwrnod yn gyfle i bostio rhywbeth ar y we am lwyddiannau menywod yn y meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.
Beth am gymryd rhan drwy drydar, blogio neu bostio am fenyw rydych chi’n edmygu?
Mae rhagor o wybodaeth ar wefan Diwrnod Ada Lovelace ac mae hen gofnodion yma.
Pob lwc i Suw a’r holl drefnwyr.