Bydd Hacio’r Iaith 2016, ein seithfed digwyddiad blynydddol, yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd am y tro cyntaf.
Y dyddiad i’w roi yn eich dyddiadur yw:
dydd Sadwrn 16 Ebrill 2016
9yb tan 5yp
a’r lleoliad yw:
Adeilad Hadyn Ellis, Prifysgol Caerdydd, Ffordd Maindy, Cathays, Caerdydd, CF24 4HQ
Mae’n gyfle gwych i gyflwyno eich gwaith, cael ymateb i’ch prosiectau, bod yn ofod i brofi/arbrofi, cynnal gweithdai, a rhannu gwybodaeth am yr hyn sy’n eich tanio ym maes tech ac iaith.
Ond yn bwysica oll, mae’n gyfle i fwynhau sgwrs gyda phobl newydd a chyfarwydd sydd efo’r un brwdfrydedd â chi dros y maes. Bydd yna siwr o fod recordiad byw o’r Haclediad hefyd!
Felly…
Cyfrannwch at drefnu’r digwyddiad a phostiwch eich syniadau am sesiwn ar Google Drive (nid oes angen cyfrif)
Gan ei fod yn gynhadledd agored mae disgwyl i bawb sy’n dod gyfrannu drwy sôn am eu prosiectau neu fod yn rhan o sesiwn mewn rhyw ffordd. Mae’n ddigwyddiad i rannu profiadau, a chymryd rhan, ddim eistedd nôl.
Mae croeso i gyfraniadau o bob math sy’n ymwneud â’r Gymraeg a defnydd o dechnoleg, y we a’r byd digidol. Os ydych chi’n cynnig sesiwn dw i’n siŵr bydd rhywbeth o ddiddordeb i bobl eraill.
Mae’n werth i chi bostio syniadau ar yr amserlen ar Google Drive os ydych am ddod. Gallwn drafod a helpu i roi sesiynau at ei gilydd.
Os ydych eisiau man trafod mae blwch sylwadau o dan y cofnod hwn.
Diolch yn fawr iawn i:
- Jeremy Evas a Catrin Stephens am helpu gyda threfniadau
- Prifysgol Caerdydd am y lleoliad, croeso ac am noddi coffi a the
- Nominet am noddi cinio
Edrychwn ‘mlaen at eich gweld chi!
Carl, Rhys, Curon a chriw Hacio’r Iaith
DIWEDDARIAD:
Dyma gipolwg ar y ddogfen trefniadau gyda manylion am deithio, sesiynau, syniadau ac amserlen:
Be ydi côd post Adeilad Hayden Ellis?
Dewi, dw i newydd ychwanegu’r cyfeiriad llawn uchod.
Diolch
Diweddariad:
Rydym wedi cadarnhau sawl sesiwn ddiddorol.
Peidiwch ag anghofio cofrestru er mwyn i ni’ch bwydo!
Dyma gopi o neges e-bost dw i newydd anfon at fynychwyr, rhag ofn bod unrhyw un wedi ei methu.