Siartiau rhyngweithiol Plotly yn Gymraeg

Rwyf wedi cyfieithu peth o ryngwyneb Plotly i’r Gymraeg. Mae’r termau sydd wedi cu cyfieithu i’w gweld yma. Rwy’n deall eu bod wedi eu hymgorffori yn fersiwn 1.41.0 plotly.js. Yn y pendraw fe ddylai hynny fwydo drwodd i’r fersiynau sy ar gael ar gyfer R a Python

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Iaith arholiadau TGAU disgyblion ysgolion Cymraeg: dadansoddi data

Rwy wedi llunio nifer o siartiau newydd yn edrych ar faint o blant ysgolion uwchradd a chanol cyfrwng Cymraeg a dwyieithog sy’n sefyll arholiadau TGAU yn Gymraeg. Mae rhai o’r siartiau wedi cael eu trydar yn ddiweddar ac rwy newydd eu cyhoeddi yma: https://statiaith.com/blog/iaith_tgau_ysgolion-uwchradd-a-chanol-cyfrwng-cymraeg-neu-ddwyieithog/ Ond y rheswm i mi gofnodi hyn ar haciaith yw fy… Parhau i ddarllen Iaith arholiadau TGAU disgyblion ysgolion Cymraeg: dadansoddi data

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Lansio statiaith.com

Rwyf wedi lansio statiaith.com heddiw. Y bwriad yw iddo ymdrin ag ‘ystadegau sy’n ymwneud â’r Gymraeg – a rhagor’, fel y mae’n ei ddweud ar y pecyn. Yn #haciaith 2014 ym Mangor dangosais un o’r mapiau sydd wedi ei gynnwys yn statiaith.com a dyma’r tro cyntaf iddo gael ei gyhoeddi. Mae’n dangos y newid yn y… Parhau i ddarllen Lansio statiaith.com

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Orbot

Gyda’r holl sôn am NSA a GCHQ, efallai y byddwch am ystyried defnyddio Orbot a’i borwr Orweb os oes dyfais Android gyda chi: https://guardianproject.info/apps/orbot/ Ac, yn amserol iawn ar ôl cofnod Aled am borth ieithoedd Microsoft, efallai y byddwch am gyfrannu at ei gyfieithu i’r Gymraeg: https://www.transifex.com/projects/p/orbot/

Cyfle i godwyr ifanc, 1-2 Mehefin 2013

Mae Young Rewired State (@youngrewired) yn trefnu digwyddiad yn Nhrefynwy ar 1-2 Mehefin i godwyr ifainc. https://youngrewiredstate.org/events/gb/2013/yrs-wales Gallai fod yn gyfle i rai hŷn gyfrannu hefyd gan eu bod yn chwilio am fentoriaid.

Dadansoddi cofnodion indigenoustweets.com

Dechreuais edrych ar gofnodion IndigenousTweets.com dros y Nadolig. Mae’r wefan yn dangos manylion am hyd at y 500 trydarwr mwyaf toreithiog mewn sawl iaith. Ar ôl edrych ar y 500 trydarwr Cymraeg es i gysylltiad â Kevin Scannell, y dyn sydd yn casglu’r data, a chael ganddo ddata tebyg ond ar gyfer y 8,274 cyfan… Parhau i ddarllen Dadansoddi cofnodion indigenoustweets.com

META-NET: astudiaethau o sefyllfa technoleg iaith 30 o ieithoedd Ewrop

Mae cyfres o adroddiadau wedi cael eu cyhoeddi gan META-NET, yn edrych ar sefyllfa 30 o ieithoedd Ewrop o ran technoleg iaith. Mae Basgeg, Catalan a Gwyddeleg yn eu plith ond dydy’r Gymraeg ddim gwaetha’r modd. Dyma’r canlyniadau allweddol: http://www.meta-net.eu/whitepapers/key-results-and-cross-language-comparison Gellir llwytho copïau o’r adroddiadau unigol llawn o: http://www.meta-net.eu/whitepapers/index_html