Iaith arholiadau TGAU disgyblion ysgolion Cymraeg: dadansoddi data

Rwy wedi llunio nifer o siartiau newydd yn edrych ar faint o blant ysgolion uwchradd a chanol cyfrwng Cymraeg a dwyieithog sy’n sefyll arholiadau TGAU yn Gymraeg. Mae rhai o’r siartiau wedi cael eu trydar yn ddiweddar ac rwy newydd eu cyhoeddi yma: https://statiaith.com/blog/iaith_tgau_ysgolion-uwchradd-a-chanol-cyfrwng-cymraeg-neu-ddwyieithog/

Ond y rheswm i mi gofnodi hyn ar haciaith yw fy mod yn meddwl y dylwn gyfrannu, yn ysbryd cod a data agored, a chan obeithio y gallai fod o ddiddordeb, yr holl god R ysgrifennais i’w creu. Mae’r cod, a rhagor o ganlyniadau, i’w weld yma: http://statiaith.com/cymraeg/ysgolion/Dadansoddi_iaith_TGAU.nb.html

Ffeil Excel gan Lywodraeth Cymru oedd ffynhonnell y data oedd yn sail i’r cyfan. Gellir ei lawrlwytho yma.

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Gan Hywel Jones

Ysgrifennaf o'm rhan fy hun yma ran amlaf, nid yn rhinwedd fy swydd.