Rwyf wedi cyfieithu peth o ryngwyneb Plotly i’r Gymraeg. Mae’r termau sydd wedi cu cyfieithu i’w gweld yma. Rwy’n deall eu bod wedi eu hymgorffori yn fersiwn 1.41.0 plotly.js. Yn y pendraw fe ddylai hynny fwydo drwodd i’r fersiynau sy ar gael ar gyfer R a Python
Awdur: Hywel Jones
Ysgrifennaf o'm rhan fy hun yma ran amlaf, nid yn rhinwedd fy swydd.
Iaith arholiadau TGAU disgyblion ysgolion Cymraeg: dadansoddi data
Rwy wedi llunio nifer o siartiau newydd yn edrych ar faint o blant ysgolion uwchradd a chanol cyfrwng Cymraeg a dwyieithog sy’n sefyll arholiadau TGAU yn Gymraeg. Mae rhai o’r siartiau wedi cael eu trydar yn ddiweddar ac rwy newydd eu cyhoeddi yma: https://statiaith.com/blog/iaith_tgau_ysgolion-uwchradd-a-chanol-cyfrwng-cymraeg-neu-ddwyieithog/ Ond y rheswm i mi gofnodi hyn ar haciaith yw fy… Parhau i ddarllen Iaith arholiadau TGAU disgyblion ysgolion Cymraeg: dadansoddi data
Lansio statiaith.com
Rwyf wedi lansio statiaith.com heddiw. Y bwriad yw iddo ymdrin ag ‘ystadegau sy’n ymwneud â’r Gymraeg – a rhagor’, fel y mae’n ei ddweud ar y pecyn. Yn #haciaith 2014 ym Mangor dangosais un o’r mapiau sydd wedi ei gynnwys yn statiaith.com a dyma’r tro cyntaf iddo gael ei gyhoeddi. Mae’n dangos y newid yn y… Parhau i ddarllen Lansio statiaith.com
Orbot
Gyda’r holl sôn am NSA a GCHQ, efallai y byddwch am ystyried defnyddio Orbot a’i borwr Orweb os oes dyfais Android gyda chi: https://guardianproject.info/apps/orbot/ Ac, yn amserol iawn ar ôl cofnod Aled am borth ieithoedd Microsoft, efallai y byddwch am gyfrannu at ei gyfieithu i’r Gymraeg: https://www.transifex.com/projects/p/orbot/
Cyfle i godwyr ifanc, 1-2 Mehefin 2013
Mae Young Rewired State (@youngrewired) yn trefnu digwyddiad yn Nhrefynwy ar 1-2 Mehefin i godwyr ifainc. https://youngrewiredstate.org/events/gb/2013/yrs-wales Gallai fod yn gyfle i rai hŷn gyfrannu hefyd gan eu bod yn chwilio am fentoriaid.
Dadansoddi cofnodion indigenoustweets.com
Dechreuais edrych ar gofnodion IndigenousTweets.com dros y Nadolig. Mae’r wefan yn dangos manylion am hyd at y 500 trydarwr mwyaf toreithiog mewn sawl iaith. Ar ôl edrych ar y 500 trydarwr Cymraeg es i gysylltiad â Kevin Scannell, y dyn sydd yn casglu’r data, a chael ganddo ddata tebyg ond ar gyfer y 8,274 cyfan… Parhau i ddarllen Dadansoddi cofnodion indigenoustweets.com
META-NET: astudiaethau o sefyllfa technoleg iaith 30 o ieithoedd Ewrop
Mae cyfres o adroddiadau wedi cael eu cyhoeddi gan META-NET, yn edrych ar sefyllfa 30 o ieithoedd Ewrop o ran technoleg iaith. Mae Basgeg, Catalan a Gwyddeleg yn eu plith ond dydy’r Gymraeg ddim gwaetha’r modd. Dyma’r canlyniadau allweddol: http://www.meta-net.eu/whitepapers/key-results-and-cross-language-comparison Gellir llwytho copïau o’r adroddiadau unigol llawn o: http://www.meta-net.eu/whitepapers/index_html
Ymchwil i’r Wyddeleg gan fyfyrwraig 16 oed
Mae hon yn stori wych. Myfyrwyr ifainc Cymru: drosodd i chi! http://www.irishtimes.com/newspaper/ireland/2012/0113/1224310195201.html
Dadansoddi trydariadau
Yn ôl ym mis Ebrill 2011 dechreuais chwilio a chadw trydariadau oedd yn cynnwys y gair “Cymraeg”. Doedd gen i ddim rheswm dros wneud heblaw fy mod am ddysgu mwy am Twitter a sut y byddai modd dadansoddi trydariadau. Rwyf wedi bod yn edrych ar y cyfan a drydarwyd hyd at tua 17.00 ar 30… Parhau i ddarllen Dadansoddi trydariadau
Accentuate.us, Moses ac indigenoustweets
Trydarais yn ddiweddar pan ddes ar draws erthygl oedd yn cyflwyno accentuate.us, ategyn Firefox sy’n ychwanegu acenion yn awtomatig pan fyddwch yn ysgrifennu ar y we. Mae’n gweithio gyda 116 iaith, gan gynnwys y Gymraeg. Gan nad oes cymaint â hynny o lythrennau yn y Gymraeg sydd ag acen uwchben fydd hi ddim mor ddefnyddiol… Parhau i ddarllen Accentuate.us, Moses ac indigenoustweets