Newid thema Hacio’r Iaith

Dw i wedi newid y thema y wefan am y tro achos oedd yr hen thema (P2 + newidiadau) yn achosi gwallau ar WordPress a PHP8.

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol Cofnodion wedi'u tagio ,

Newid thema gwefan Hacio’r Iaith

Unrhyw farn cryf ar sut ddylai wefan Hacio’r Iaith edrych? Dw i wedi bod yn profi thema TwentyNineteen a’i gyfieithiad newydd gan Rhos Prys. Mae’r thema yn edrych fel Medium – addas iawn i erthyglau amlgyfrwng hirion. Weithiau dw i’m teimlo bod angen cael gwedd ar Hacio’r Iaith sydd DDIM yn rhy slic ac sydd… Parhau i ddarllen Newid thema gwefan Hacio’r Iaith

WordPress 5.0

Mae WordPress 5.0 nawr ar gael! Paratowch ar gyfer newidiadau sylfaenol i olygydd WordPress – mae nawr yn gweithio ar sail blociau. Mae’r golygydd yn ddatblygiad mae WordPress wedi bod yn gweithio arno ers tro er mwyn symleiddio creu cynnwys ar gyfer eu gwefannau ond mae modd defnyddio’r golygydd clasurol o hyd… Mae thema newydd… Parhau i ddarllen WordPress 5.0

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol Cofnodion wedi'u tagio

WordPress a’r GDPR

Mae WordPress wedi ryddhau diweddariad i gynorthwyo defnyddwyr WordPress sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r rheolau newydd sy’n dod i rym ar Fai 25. ‘Mond 7 diwrnod i fynd! Mae’r diweddariad yn cynnwys rhoi dewis ar sut mae cwcis yn trin eu data personol, creu adran newydd i wefan ddarparu ei dudalen polisi preifatrwydd (Gosodiadau>Preifatrwydd),… Parhau i ddarllen WordPress a’r GDPR

Hacio’r Iaith 2018: Sesiwn 5 (Ystafell 1)

Dihareb y dydd Gareth Morlais Creu cyfrif Twitter awtomatig Diharhebion. Yn gryno – canfod y testun > twtio > Excel (trefnu, pennu dyddiadau) >WordPress (+amryw ategolion JetPack, ImageInject a mwy) > Twitter Archif Ddarlledu Genedlaethol Illtud Daniel Archif sydd ar y gweill (ond mae cyfrif Twitter) Oherwydd bod BBC yn symud o Landaf, fydd dim… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith 2018: Sesiwn 5 (Ystafell 1)

WordPress 3.7.1 yn Gymraeg

WordPress yw’r system rheoli cynnwys sydd yn rhedeg lot o wefannau o gwmpas y byd gan gynnwys Hacio’r Iaith. Mae fersiwn diweddaraf bellach, sef 3.7.1. Canllaw i WordPress 3.7.1. Os ydych chi’n defnyddio WordPress.com yn Gymraeg (y fersiwn dotcom yw’r fersiwn cyflym a haws) mae popeth yn awtomatig. Does dim rhaid i chi wneud dim… Parhau i ddarllen WordPress 3.7.1 yn Gymraeg

BuddyPress – unrhyw wedi gwneud cyfieithiad Cymraeg?

Ydy unrhyw wedi gwneud cyfieithiad o BuddyPress (yr ategyn WordPress) i’r Gymraeg? Rhannwch y ffeil .po os oes fersiwn os gwelwch yn dda, hyd yn oed rhywbeth anghyflawn! O’n i eisiau gofyn cyn bwrw ymlaen gyda fe. Annhebyg bydd gyda fi amser/egni/termau i wneud y cwbl lot ond dw i’n bwriadu cyfieithu’r pethau ar y… Parhau i ddarllen BuddyPress – unrhyw wedi gwneud cyfieithiad Cymraeg?

Cwrs ‘Datblygu Gwefannau gan ddefnyddio WordPress’ AM DDIM, 17-18.10.13 Caerfyrddin

Mae Cynghrair Meddalwedd Cymru yn cynnal cwrs deuddydd ar greu gwefan yn defnyddio WordPress. O’r wefan: Mae WordPress yn caniatàu i unrhyw un ddatblygu gwefan yn cynnwys: Busnesau sy’n dymuno sefydlu presenoldeb ar-lein Ffotograffwyr a dylunwyr sy’n dymuno arddangos eu portffolio ar-lein Masnachwyr sy’n dymuno creu siopau ‘e-fasnachol’ ar-lein Unigolion sy’n dymuno creu gwefannau newyddion… Parhau i ddarllen Cwrs ‘Datblygu Gwefannau gan ddefnyddio WordPress’ AM DDIM, 17-18.10.13 Caerfyrddin

WordPress 3.6 RC1

Mae WordPress RC1 ar gael nawr ar wefan cy.wordpress.org gyfer ei brofi. Y disgwyl yw y bydd y fersiwn terfynol ar gael ymhen rhyw bythefnos. Mwynhewch 🙂 Gwybodaeth bellach gan WordPress Sylwadau ar yr addasiad Cymraeg i post@meddal.com, os gwelwch chi’n dda.