Unwaith y flwyddyn mae nerds tech-ieithyddol Cymru yn cwrdd fyny mewn digwyddiad brawychus fel the Purge… Ond yn lwcus iawn nid dyna oedd Hacio’r Iaith 2017, mae’r purge wythnos nesa. Ymunwch â Sions, Bryn a Iestyn yn fyw ar leoliad o riviera trofannol Bangor!
Ffansi gadael i ni wybod os chi’n joio? Gadewch review i ni yn iTunes, ffankiw!
Dw i’n mwynhau’n fawr hyd yn hyn. Mae’r rhifyn yn bwysicach ac yn lot mwy perthnasol i bawb nag y mae’r disgrifiad ‘nerdaidd’ yn awgrymu – yn fy marn i! Gwaith da iawn bobl.