Model dehongli casgliadau @DyddiadurKate (@sara_huws)
Trydar pob dydd, yn defnyddio cofnodion o ddydiadur Kare Rowlands yn 1915.
Crynodeb weddol dwt o beth oedd wedi digwydd y diwrnod hynny, ddim llawer mwy na trydariad!
Trydar pob dydd, yn defnyddio cofnodion o ddydiadur Kare Rowlands yn 1915.
Crynodeb weddol dwt o beth oedd wedi digwydd y diwrnod hynny, ddim llawer mwy na trydariad!
Hanes y wefan yn ymestyn yn ol i pan ddechreuodd ei dad (Geraint Lewis) ddysgu’r iaith a dechrau casglu ffurfiau geriau. Dim ond 7% yn ffurfiau cysefin.
Y Gweiadur yn eich helpu i werthfawrogi barddoniaeth!
“Draw dros y don mae bro dirion nad ery
Cwyn yn ei thir, ac yno ni thery
Na haint na henaint fyth mo’r rhai hynny
A ddêl i’w phur, rydd awel, a phery
Pob calon yn hon yn heiny a llon,
Ynys Afallon ei hun sy felly.
Beth yw ystyr: ery thery ddêl?
Falle bod patrwm geiriaduron traddodiadol wedi rhedeg ei gwrs
Cynnig offer i gynorthywo dysgwyr sy’n pontio o ddysgu iaith lafar i iaith ffurfiol.
Rhifyn byr a bachog o’r Haclediad sydd i’w gael y mis hwn, wedi i’r ffliw daro Iestyn, bydd Bryn a Sioned yn mentro i gwblhau podlediad mewn amser record Byd! Bydd sôn am Haciaith ’15 ym Mangor a llwyth o fwydro amserol technolegol – mwynhewch!
Mae’r Grant Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg 2015-2016 Llywodraeth Cymru ar agor i geisiadau rhwng nawr a’r 30ain o Ionawr 2015.
Mae’r grantiau yn cefnogi amcanion y cynllun gweithredu Technoleg a chyfryngau digidol Cymraeg.
Pwrpas y cynllun gweithredu yw annog gweithgareddau sy’n hybu ac yn hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg trwy dechnoleg a chyfryngau digidol. Prif ffocws y grant fydd cefnogi gweithgareddau sy’n:
Croesawir ceisiadau gan gyrff o’r trydydd sector, y sector breifat a’r sector gyhoeddus ar gyfer gweithgareddau nad ydynt yn ddarostyngedig i’w Cynlluniau Iaith Gymraeg statudol.
Gweithgareddau cymwys
Dyma rai o’r gweithgareddau sy’n gymwys i’w hariannu dan y cynllun:
Am fwy o wybodaeth am y grant, yn cynnwys y ffurflen gais a’r canllawiau a meini prawf:
Ydan, ry’n ni wedi cyrraedd 40 rhifyn o’r Haclediad — diolch am sticio efo ni! Yn y bennod hyd-yn-oed-llai-ffurfiol nac arfer bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn dathlu pedair blynedd o’u hoff dechnoleg, DDIM yn trafod ‘bendgate’ yr iPhone 6 a thrio deall os yw Windows wedi anghofio sut i gyfri wrth fynd yn syth o Windows 8 i Windows 10. Diolch am wrando am y 40 rhifyn diwethaf giang, allwn ni’m gwneud o heboch chi!
Croeso i rifyn 39 (bron y 4-0 fawr) o’r Haclediad – byddwn ni’n trafod syniadau Cymdeithas yr Iaith am ariannu darlledwr amlgyfrwng newydd i Gymru, e-lyfrau plant Cymraeg yn dod i iBooks, Bryn yn hacio weiars a checkio nôl mewn gyda system reoli tŷ Iestyn wrth i’r tywydd oeri. Joiwch, a chofiwch, sdim sôn am NATO, llongau rhyfel ym Mae Caerdydd na Hofrenyddion Tony Stark-aidd yn y rhifyn yma, ffiw!
Ar rifyn yma’r haclediad bydd y criw yn cadw’u pennau yn y cymylau – wrth rêtio a slêtio systemau gweithio cwmwl rhai o’r cwmnïau mwyaf allan yna. Gyda Microsoft Office yn cyrraedd yr iPad (o’r diwedd), pa ddewisiadau arall sy’na i drefnu’ch taenlenni marwolaethau Game of Thrones? Byddwn yn sbecian ar sefyllfa Facebook yn prynu Occulus Rift (ar ôl i hwnnw godi ffortiwn trwy ariannu torfol, wps), a’r Iest Test tro yma yw’r system rheoli cartref Nest, jyst achos ei fod yn odli.
Mwynhewch
O.N. — Mi recordwyd hwn wythnosau yn ôl, a nid yw Gafyn wedi bod yn agos ato, felly ymddiheuriadau am yr ansawdd a’r amser gymerwyd i’w ddarlledu.
Rhifyn byw o ddigwyddiad Hacio’r Iaith ym Mangor – gyda cyfweliadau am Cymru Byw (gwasanaeth newydd blogio byw y BBC) ac am holl stwff newydd data’r Llyfrgell Genedlaethol. Mae digon o sgwrsio am fore’r digwyddiad hefyd, mwynhewch!
*Dolenni i ddod…
Ar y rhifyn cyn-Haciaith 2014 yma bydd y Iestyn, Bryn a Sioned yn rhoi croeso gwresog i S4C i blatfform Youview; croeso a rhybydd i CEO newydd Microsoft, ac wrth gwrs cyffroi’n wirion cyn digwyddiad byw Hacio’r Iaith 2014 ym Mangor ar Chwefror y 15fed… welwn ni chi yno!
Fideo gan Aled Mills o Hacio’r Iaith 2012
Dal methu credu bod ni di gwneud 40 o rain… Ta beth! Ymlaen i’r 40 nesaf!