LibreOffice 7.2 yw’r fersiwn mawr diweddaraf, mae’n cynnig gwell perfformiad, gwell cydnawsedd, a llawer o nodweddion newydd i roi hwb i’ch gwaith. Edrychwch ar y fideo isod am drosolwg – ac yna sgrolio i lawr am ragor o fanylion… Beth sydd i’w weld Yn LibreOffice 7.2, mae ffenestr llamlen newydd o dan y ddewislen Cymorth… Parhau i ddarllen LibreOffice 7.2 Newydd
Joomla! 4.0
Mae Joomla! yn System Reoli Cynnwys poblogaidd ar gyfer creu gwefannau. Mae’r fersiwn Gymraeg yn becyn llawn o safbwynt y defnyddiwr a’r gweinyddwr. Os nad ydych wedi defnyddio Joomla o’r blaen neu heb wneud ers sawl blwyddyn beth am roi cynnig arni? Rhyddhawyd pecyn Cymraeg Joomla 4 ar Awst 17eg, yr un diwrnod a Joomla… Parhau i ddarllen Joomla! 4.0
HEDDIW: Gweithdy Mapio Cymru, Eisteddfod AmGen 2021
Dw i wedi blogio ar wefan Mapio Cymru: Dyma gyflwyniad i brosiect Mapio Cymru sydd yn creu map o Gymru gydag enwau llefydd yn Gymraeg. Yn ystod y sesiwn bydd cyfleoedd i chwarae gyda’r map, darganfod enwau a lleoliadau, ac i gyfrannu gwybodaeth at y genhedlaeth nesaf o apiau mapiau Cymraeg. Mae’r gwaith yn berthnasol… Parhau i ddarllen HEDDIW: Gweithdy Mapio Cymru, Eisteddfod AmGen 2021
WordPress 5.8 Newydd
Mae’r fersiwn diweddaraf newydd ei gyflwyno ac ar gael ar eich gwefan WordPress neu ar wefan WordPress.org. Mae’n cynnig gwelliannau yn y golygydd blociau a phatrymau gwefannau. Diolch i Carl Morris am ei gefnogaeth. Dyma’r cyflwyniad: Tri Phwerdy Hanfodol Rheoli Teclynnau gyda Blociau Ar ôl misoedd o waith caled, mae grym blociau wedi dod i’r… Parhau i ddarllen WordPress 5.8 Newydd
Golygathon Wicipedia ar gyfer Wici’r Holl Ddaear 2021 (nos Wener 16/07/2021)
Dyma fanylion am ddigwyddiad hwyl nos Wener yma: Golygathon Wicipedia ar gyfer Wici’r Holl Ddaear 2021 Cyfle i ddefnyddio rhai o’r lluniau newydd i greu a gwella erthyglau Wicipedia am gadwraeth natur yng Nghymru. Bydd hyn yn sesiwn anffurfiol ar-lein gyda hyfforddiant i ddefnyddwyr newydd yn ôl y galw Croeso cynnes i bawb. Does dim… Parhau i ddarllen Golygathon Wicipedia ar gyfer Wici’r Holl Ddaear 2021 (nos Wener 16/07/2021)
WordPress 5.7 Newydd
Mae’r fersiwn diweddaraf newydd ei gyflwyno ac ar gael ar eich gwefan WordPress neu ar wefan WordPress.org. Mae’n cynnig gwelliannau yn y golygydd a lliwiau newydd i’r rhyngwyeb. Diolch i Carl Morris am ei gefnogaeth. Dyma’r cyflwyniad (mae i’w weld mewn lliw, gyda lluniau drwy’r eicon WordPress ar gornel uchaf ar y chwith ar eich… Parhau i ddarllen WordPress 5.7 Newydd
Newid thema Hacio’r Iaith
Dw i wedi newid y thema y wefan am y tro achos oedd yr hen thema (P2 + newidiadau) yn achosi gwallau ar WordPress a PHP8.
Gwefan Technoleg Cymraeg Helo Blod
Mae’r wefan yn darparu gwybodaeth am amryw o raglenni, gwasanaethau ac offer cyfrifiadurol sydd ar gael yn Gymraeg. Mae’n rhyfeddol gweld gymaint o offer ar gael ar gyfer y defnyddwyr Cymraeg. Mae’r wefan ar gael yn Saesneg hefyd. Mae ‘na rhagor i’w gweld yn Meddal.com… 😉
LibreOffice 7.1 Newydd
LibreOffice 7.1 yw’r fersiwn mawr diweddaraf, mae’n cynnig gwell perfformiad, gwell cydnawsedd, a llawer o nodweddion newydd i roi hwb i’ch gwaith. Edrychwch ar y fideo isod am drosolwg – ac yna sgrolio i lawr am ragor o fanylion… https://youtu.be/PLutwM8XKvo Yn gynt, llyfnach a chlyfrach Mae LibreOffice 7.1 yn cynnwys gwelliannau perfformiad cyffredinol: gweithrediadau canfod/amnewid,… Parhau i ddarllen LibreOffice 7.1 Newydd
Yr ap Profi ac Olrhain ar gael yn Gymraeg i bawb!
Mae’r ap Profi ac Olrhain Covid-19 y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, nawr ar gael yn Gymraeg. Yn y fersiynau blaenorol, roedd ar gael ar sail iaith system y ffôn neu ddewis iaith yn y fersiynau diweddaraf o’r iPhone ac Android. Roedd modd i mi ei osod yn Gymraeg yn ddiweddar ar ffôn yn rhedeg fersiwn Cymraeg… Parhau i ddarllen Yr ap Profi ac Olrhain ar gael yn Gymraeg i bawb!