WordPress 5.8 Newydd

Mae’r fersiwn diweddaraf newydd ei gyflwyno ac ar gael ar eich gwefan WordPress neu ar wefan WordPress.org. Mae’n cynnig gwelliannau yn y golygydd blociau a phatrymau gwefannau.

Diolch i Carl Morris am ei gefnogaeth.

Dyma’r cyflwyniad:

Tri Phwerdy Hanfodol

Rheoli Teclynnau gyda Blociau

Ar ôl misoedd o waith caled, mae grym blociau wedi dod i’r Golygydd Teclynnau Bloc a’r Cyfaddaswr. Nawr gallwch chi ychwanegu blociau mewn ardaloedd teclynnau ar draws eich gwefan a gyda rhagolwg byw trwy’r Cyfaddaswr. Mae hyn yn agor posibiliadau newydd i greu cynnwys: o gynlluniau bach dim cod i’r llyfrgell helaeth o flociau craidd a thrydydd parti. Mae rhagor o fanylion ar gyfer datblygwyr yn y wybodaeth ar Declynnau i ddatblygwyr .

Dangos Cofnodion gyda Blociau a Phatrymau Newydd

Mae’r Bloc Cylch Ymholiad yn ei gwneud hi’n bosib i ddangos cofnodion ar sail paramedrau penodol; yn debyg i gylch PHP heb y cod. Mae modd dangos cofnod o gategori penodol, er mwyn gwneud pethau fel creu portffolio neu dudalen yn llawn o’ch hoff rysetiau. Ystyriwch ef fel ffordd fwy cymhleth a phwerus o’r Bloc Cofnod Diweddaraf! Hefyd, mae awgrymiadau patrymol yn ei gwneud hi’n haws nag erioed i greu rhestr o gofnodion gyda’r cynllun rydych ei angen.

Golygu’r Templedi o Amgylch Cofnodion

Gallwch ddefnyddio’r golygydd bloc cyfarwydd i olygu templedi sy’n dal eich cynnwys – dim ond gweithredu thema bloc neu thema sydd wedi dewis y nodwedd hon. Newidiwch o olygu eich cofnodion i olygu eich tudalennau ac yn ôl eto, hyn i gyd gan ddefnyddio’r golygydd bloc cyfarwydd. Mae mwy nag 20 bloc newydd ar gael o fewn themâu cydnaws. Darllenwch ragor am y nodwedd hon a sut i arbrofi â hi yn y nodiadau rhyddhau.


Tri Chynorthwyydd Llif Gwaith

Trosolwg o’r Strwythur Tudalen

Weithiau mae angen tudalen cychwyn syml arnoch ond weithiau mae angen rhywbeth ychydig yn fwy sylweddol. Wrth i flociau gynyddu, mae patrymau’n dod i’r amlwg, a chreu cynnwys yn dod yn haws, mae angen atebion newydd i wneud cynnwys cymhleth yn hawdd ei lywio. Golwg Rhestr yw’r ffordd orau i neidio rhwng haenau o gynnwys a blociau nythu. Gan fod y Golwg Rhestr yn rhoi trosolwg i chi o’r holl flociau yn eich cynnwys, gallwch nawr lywio’n gyflym i’r union floc sydd ei angen arnoch chi. Yn barod i ganolbwyntio’n llwyr ar eich cynnwys? Gallwch ei droi ymlaen neu i ffwrdd i gyd-fynd a’ch llif gwaith.

Awgrymiadau am Batrymau Blociau

Gan ddechrau yn y fersiwn hwn bydd yr offeryn Trawsnewid Patrymau yn awgrymu patrymau bloc yn seiliedig ar y bloc rydych chi’n ei ddefnyddio. Ar hyn o bryd, gallwch roi cynnig arni yn y Bloc Ymholiad a’r Bloc Eicon Cymdeithasol. Wrth i fwy o batrymau gael eu hychwanegu, byddwch yn gallu cael ysbrydoliaeth ar sut i arddullio’ch gwefan heb fyth adael y golygydd!

Delweddau Arddull a Lliwio

Lliwiwch eich delweddau a gorchuddio blociau gyda hidlwyr deuliw! Gall deuliw ychwanegu sbarc o liw at eich dyluniadau ac arddull eich delweddau (neu fideos yn y bloc clawr) er mwyn integreiddio’n dda â’ch themâu. Gallwch feddwl am yr effaith deuliw fel hidlydd du a gwyn, ond yn lle bod y cysgodion yn ddu a’r goleubwyntiau’n wyn, chi sy’n dewis eich lliwiau eich hun ar gyfer y cysgodion a’r goleubwyntiau. Mae rhagor amdano yn y ddogfennaeth.


Pethau i Ddatblygwyr eu Harchwilio

Theme.json

Yn cyflwyno’r Global Styles and Global Settings APIs: er mwyn rheoli gosodiadau’r golygydd, yr offer cyfaddasu sydd ar gael, a’r blociau arddull gan ddefnyddio ffeil theme.json yn y thema weithredol. Mae’r ffeil ffurfweddu hon yn galluogi neu’n analluogi nodweddion ac yn gosod arddulliau rhagosodedig ar gyfer gwefan a blociau. Os ydych yn adeiladu themâu, gallwch arbrofi gyda’r iteriad cynnar hwn o nodwedd newydd ddefnyddiol. I gael gwybod mwy am yr hyn sydd ar gael ar hyn o bryd a sut mae’n gweithio, darllenwch y nodyn datblygwr hwn.

Gollwng cefnogaeth i Internet Explorer 11

Gollyngwyd cefnogaeth i Internet Explorer 11 o’r fersiwn yma. Mae hyn yn golygu y gall fod gennych broblemau wrth reoli eich gwefan fydd ddim yn cael eu datrys yn y dyfodol. Os ydych yn defnyddio IE11 ar hyn o bryd, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn newid i borwr mwy diweddar.

Ychwanegu cefnogaeth ar gyfer WebP

Mae WebP yn fformat delwedd fodern sy’n darparu gwell cywasgiad di-golled a cholledadwy ar gyfer delweddau ar y we. Mae delweddau WebP tua 30 % yn llai ar gyfartaledd na’u JPEG neu PNG cyfwerth, gan arwain at wefannau sy’n gynt ac yn defnyddio llai o led band.

Ychwanegu Cefnogaeth Blociau Ychwanegol

Gan ehangu ar gymorth i flociau a weithredwyd yn flaenorol yn WordPress 5.6 a 5.7, mae WordPress 5.8 yn cyflwyno sawl baner cynnal blociau newydd a dewisiadau newydd i gyfaddasu eich blociau cofrestredig. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y nodyn i ddatblygwyr ar gynnal blociau.


Darllenwch y Field Guide am ragor o wybodaeth!

Darllenwch y fersiwn ddiweddaraf o’r WordPress Field Guide. Mae’n amlygu’r nodiadau datblygwr ar gyfer pob newid y byddwch angen bod yn ymwybodol ohonyn nhw. WordPress 5.8 Field Guide.