LibreOffice 7.1 Newydd

LibreOffice 7.1 yw’r fersiwn mawr diweddaraf, mae’n cynnig gwell perfformiad, gwell cydnawsedd, a llawer o nodweddion newydd i roi hwb i’ch gwaith. Edrychwch ar y fideo isod am drosolwg – ac yna sgrolio i lawr am ragor o fanylion…

https://youtu.be/PLutwM8XKvo

Yn gynt, llyfnach a chlyfrach

Mae LibreOffice 7.1 yn cynnwys gwelliannau perfformiad cyffredinol: gweithrediadau canfod/amnewid, gwirio sillafu, awtohidlo a mwy.  Mae effeithiau animeiddio sy’n seiliedig ar ffiseg a chysgodion  meddal pwl yn gwneud i’ch cyflwyniadau sefyll allan. Hefyd yn newydd mae swyddogaethau bwrdd a thaenlen newydd yn helpu chi i drin data yn fwy effeithiol..

Gweithio gyda rhagor o ddogfennau

Mae LibreOffice yn defnyddio’r fformat OpenDocument safonol – dewis gwych ar gyfer storio data yn y tymor hir. Ond gall hefyd agor dogfennau Microsoft Office ac mae LibreOffice 7.1 yn dod â llawer o welliannau i gydnawsedd: newid olrhain mewn tablau arnofio, mewnforio fformiwlâu mewn tablau testun ac allforio meysydd fformiwlâu.

Dewiswch ryngwyneb wedi’i gyfaddasu ar eich cyfer chi

Pan fyddwch yn ei gychwyn am y tro cyntaf, mae LibreOffice 7.1 yn cyflwyno deialog dewis rhyngwyneb defnyddiwr newydd. Gallwch ddewis rhwng y ddewislen “clasurol” + bar offer cynllun, neu ddewis y dyluniad bar swyddogaethau diweddar, sydd hefyd ar gael yn y ddewislen trwy Golwg > Rhyngwyneb Defnyddiwr > Tabiwyd.

Cysgliad (Trwydded am ddim)

Mae Cysgliad – Trwydded am Ddim yn gweithio gyda phob fersiwn o LibreOffice.