WordPress 5.7 Newydd

Mae’r fersiwn diweddaraf newydd ei gyflwyno ac ar gael ar eich gwefan WordPress neu ar wefan WordPress.org. Mae’n cynnig gwelliannau yn y golygydd a lliwiau newydd i’r rhyngwyeb.

Diolch i Carl Morris am ei gefnogaeth.

Dyma’r cyflwyniad (mae i’w weld mewn lliw, gyda lluniau drwy’r eicon WordPress ar gornel uchaf ar y chwith ar eich bwrdd gwaith):

Camwch i mewn i WordPress 5.7.

Gyda’r fersiwn newydd hon, mae WordPress yn cyflwno lliwiau ffresh. Mae’r golygydd yn eich helpu i weithio mewn llefydd na fyddai modd i chi wneud o’r blaen—o leiaf, nid heb fynd i godio neu logi gweithiwr proffesiynol. Mae’r rheolyddion rydych chi’n eu defnyddio fwyaf, fel newid maint teip, mewn mwy o leoedd—yn union le mae eu hangen nhw arnoch chi. Ac mae newidiadau mewn cynllun a ddylai fod yn hawdd, fel delweddau uchder llawn, nawr yn haws eu gwneud.


Mae’r golygydd nawr yn haws ei ddefnyddio

Addasu maint ffont mewn mwy o fannau: nawr, mae rheolyddion maint ffontiau yn union lle mae eu hangen arnoch chi yn y blociau Rhestr a Chod. Dim mwy o fynd i sgrin arall i wneud yr un newid penodol hwnnw!

Blociau ailddefnyddiadwy: mae sawl gwelliant yn gwneud blociau y mae modd eu hailddefnyddio yn fwy sefydlog ac yn haws eu defnyddio. A maen nhw nawr yn cael eu cadw’n awtomatig gyda’r cofnod pan fyddwch chi’n clicio ar y botwm Diweddaru.

Mewnosodwr llusgo a gollwng: gallwch lusgo blociau a phatrymau blociau o’r mewnosodwr i mewn i’ch cofnodion.

Gallwch wneud mwy heb ysgrifennu cod cyfaddas

Aliniad uchder llawn: a ydych chi erioed wedi bod eisiau gwneud bloc, fel y bloc Clawr, i lenwi’r ffenestr gyfan? Nawr gallwch chi wneud hynny.

Bloc botymau: nawr gallwch ddewis cynllun fertigol neu llorweddol. A gallwch osod lled botwm i ganran ragosodedig.

Bloc Eiconau Cymdeithasol: nawr gallwch newid maint yr eiconau.


Palet Lliw Rhagosodedig Symlach

Mae’r palet lliw symlach newydd hwn yn cau’r holl liwiau a arferai fod yng nghod ffynhonnell WordPress i lawr i saith lliw craidd ac ystod o 56 arlliw sy’n cwrdd â’r gymhareb cyferbyniad sy’n cael eu hargymell gan yr WCAG 2.0 AA yn erbyn gwyn neu ddu.

Mae’r lliwiau’n ymddangosiadol unffurf o olau i dywyll ym mhob ystod, sy’n golygu eu bod yn dechrau yn wyn ac yn tywyllu’r un faint gyda phob cam.

Mae gan hanner yr ystod gymhareb cyferbyniad 4.5 neu uwch yn erbyn du, ac mae’r hanner arall yn cynnal yr un cyferbyniad yn erbyn gwyn.

Dewch o hyd i’r palet newydd yng nghynllun lliw rhagosodedig WordPress, a’i ddefnyddio wrth adeiladu themâu, ategion, neu unrhyw gydrannau eraill. Am yr holl fanylion, darllenwch y nodyn dev y Palet Lliw.


O HTTP i HTTPS mewn un clic

Gan ddechrau nawr, mae newid safle o HTTP i HTTPS yn symudiad un clic. Bydd WordPress yn diweddaru URLau cronfa ddata yn awtomatig pan fyddwch chi’n newid. Dim mwy o chwilio a dyfalu!

API Robotiaid Newydd

Mae’r API Robotiaid yn caniatau i chi gynnwys cyfarwyddebau hidlo yn nhag meta’r robotiaid, ac mae’r API yn cynnwys cyfarwyddeb max-image-preview: large trwy ragosodiad. Mae’n golygu y gall beiriannau chwilio ddangos rhagolwg delweddau mwy, sy’n gallu cynyddu eich traffig (oni bai fod eich gwefan wedi’i nodi fel not-public).

Glanhad parhaus ar ôl ei ddiweddaru i jQuery 3.5.1

Am flynyddoedd bu jQuery yn helpu i wneud i bethau symud ar y sgrin mewn ffyrdd na allai’r offer sylfaenol eu gwneud—ond mae hynny’n parhau i newid, ac felly hefyd jQuery.

Yn 5.7, mae jQuery yn mynd yn fwy manwl a llai ymwthiol, bydd yna lai o negeseuon yn y consol.

Llwytho diog eich iframes

Nawr mae’n syml gadael i iframes lwytho’n ddiog. Yn rhagosodedig, bydd WordPress yn ychwanegu loading="lazy" i dagiau iframe pan mae lled ac uchder yn cael ei bennu.


Darllenwch y Field Guide am ragor o wybodaeth!

Edrychwch ar y fersiwn ddiweddaraf o’r WordPress Field Guide. Mae’n amlygu’r nodiadau datblygwr ar gyfer pob newid y byddwch angen bod yn ymwybodol ohonyn nhw. WordPress 5.7 Field Guide.