Joomla! 4.0

Mae Joomla! yn System Reoli Cynnwys poblogaidd ar gyfer creu gwefannau. Mae’r fersiwn Gymraeg yn becyn llawn o safbwynt y defnyddiwr a’r gweinyddwr.  Os nad ydych wedi defnyddio Joomla o’r blaen neu heb wneud ers sawl blwyddyn beth am roi cynnig arni?

Rhyddhawyd pecyn Cymraeg Joomla 4 ar Awst 17eg, yr un diwrnod a Joomla 4 ei hun ac mae mwy o fanylion ar gael amdano ar https://www.joomla.org/4/cy/

Joomla 3.10 yw’r fersiwn ar gyfer gwefannau Joomla sy’n bodoli’n barod a dylech ddefnyddio’r fersiwn yma i wirio os ydy bob rhan o’ch gwefan yn barod ar gyfer Joomla 4.  Mae’r pecyn Cymraeg ar gyfer 3.10 hefyd wedi ei ryddhau.