Yr ap Profi ac Olrhain ar gael yn Gymraeg i bawb!

Mae’r ap Profi ac Olrhain Covid-19 y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, nawr ar gael yn Gymraeg.

Yn y fersiynau blaenorol, roedd ar gael ar sail iaith system y ffôn neu ddewis iaith yn y fersiynau diweddaraf o’r iPhone ac Android. Roedd modd i mi ei osod yn Gymraeg yn ddiweddar ar ffôn yn rhedeg fersiwn Cymraeg o Android LineageOS yr e Foundation. Nawr mae modd i bawb ddefnyddio’r rhyngwyneb Cymraeg. 🙂

Mae’r dewis iaith yn un amlieithog gan gynnwys Arabeg, Pwyleg a Somalieg. Nid yw’n cynnwys Gaeleg yr Alban na’r Wyddeleg.

Sut mae gosod y Gymraeg?

Gosodwch neu ddiweddaru i’r fersiwn ddiweddaraf drwy’r Ap Store, Google Play neu ddarparwr apiau dibynadwy.

Agorwch yr ap (bydd popeth yn Saesneg) ac ar ôl llanw eich manylion lleoliad bydd sgrin cartref yn ymddangos

Cliciwch ar ‘Settings’, yna ‘Language’ a bydd rhestr hir o enwau ieithoedd yn ymddangos. Mae’r Gymraeg ar y gwaelod. Cliciwch ar y botwm radio i ddewis y Gymraeg a chlicio Confirm..

Bydd y rhyngwyneb Cymraeg yn ymddangos.

A dyna ni, da iawn. Arhoswch adref a chadwch yn saff!