Hacio'r Iaith Bach, Rhuthun – 8.11.12

Yn dilyn cyffro cyhoeddi Hacio’r Iaith 2013 yr wythnos diwethaf, dw i am drefnu Hacio’r Iaith Bach yn Rhuthun. Does dim Hacio’r Iaith Bach wedi bod yn y gogledd ddwyrain eto, felly byddai’n braf cwrdd a gîcs yr ardal. Os ydych ar gael nos Iau yma (8fed o Dachwedd), ac eisiau trafod technoleg, y we ac iaith, galwch… Parhau i ddarllen Hacio'r Iaith Bach, Rhuthun – 8.11.12

Yn dallt Ruby, Python a PHP ac eisiau ‘ennill’ £75?

Yn ôl yn 2009 daeth sawl gwefan defnyddiol i ben wrth i’r Post Brenhinol fygwth camau cyfreithiol yn eu herbyn am ddefnyddio data codau post oni bai eu bod yn talu £4,000 y flwyddyn am y data. Un o’r gwefannau oedd PlanningAlerts.com a oedd yn tynnu gwybodaeth am geisiadau cynllunio o wefannau awdurdodau lleol a’i… Parhau i ddarllen Yn dallt Ruby, Python a PHP ac eisiau ‘ennill’ £75?

Arbenigedd cyfrifiadurol Prifysgol Glyndŵr i lunio cenhedlaeth newydd o raglenwyr

Dyma stori o adran newyddion gwefan Prifysgol Glyndŵr: Bydd gwyddonwyr cyfrifiadurol o Brifysgol Glyndŵr yn dysgu rhaglennu cyfrifiadurol i ddisgyblion o saith ysgol yng ngogledd Cymru ar ôl ennill gwobr addysg o fri.  Mae’r brifysgol yn un o ddim ond 31 corff yn y DU, a’r unig un yng Nghymru, i dderbyn Bwrsari Addysg gan Gymdeithas… Parhau i ddarllen Arbenigedd cyfrifiadurol Prifysgol Glyndŵr i lunio cenhedlaeth newydd o raglenwyr

Myfyrwyr Smart Pen Llŷn a gweithdai app #steddfod2012

Dyma stori wedi ei chymryd o adran newyddion gwefan Coleg Llandrillo: Myfyrwyr Smart Yn ddiweddar, treuliodd grŵp o ddisgyblion blwyddyn naw Ysgol Glan y Môr ac Ysgol Botwnnog ddiwrnod ar gampws Coleg Meirion- Dwyfor ym Mhwllheli yn cymryd rhan mewn gweithdy technoleg unigryw. Cafodd y myfyrwyr ddysgu am hanfodion creu apiau ar gyfer ffonau a… Parhau i ddarllen Myfyrwyr Smart Pen Llŷn a gweithdai app #steddfod2012

Addiply Cymraeg cam yn nes.

Mae cofnod ar flog Richard Waghorn, sy’n cyfierio at addiply a’r Gymraeg: But on the back of a meeting in the City yesterday with a translation team and various bits and bobs of development work successfully concluded over the last couple of weeks – particularly now that we have a bright, new, shiny API to… Parhau i ddarllen Addiply Cymraeg cam yn nes.

Golygathon y Wicipedia Cymraeg, Caerdydd 30.6.12 #cywiki

Cadwch y 30ain o Fehefin 2012 yn rhydd, gan y bydd golygathon y Wicipedia Cymraeg yn digwydd yn Llyfrgell Ganolog Caerdydd. Beth yw Golygathon? Cyfle i bobl ddod at ei gilydd mewn un man i greu neu wella erthyglau ar y Wicipedia Cymraeg, sef gwyddoniadur arlein y gall unrhyw un ei olygu.  Mae’n gyfle i… Parhau i ddarllen Golygathon y Wicipedia Cymraeg, Caerdydd 30.6.12 #cywiki

Hacio’r Iaith Bach – Caerdydd 28ain Mai 2012

Hacio’r Iaith Bach: Newyddion lleol yn y ddinas Nos Lun 28ain mis Mai 2012 7:30 pm tan hwyr Prif bar, Chapter Market Road Treganna Caerdydd CF5 1QE #haciaith haciaith.cymru wifi ar gael Dw i am dorri rheolau Hacio’r Iaith Bach rwan a threfnu noson mewn tafarn gyda thema ysgafn iddi (er bydd cyfle a chroeso… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith Bach – Caerdydd 28ain Mai 2012

Hacio’r Iaith Eisteddfod Bro Morgannwg: trafodaeth am amserlen bosib gweithgareddau

Mae Hacio’r Iaith wedi cael cynnig slotiau ar gyfer cynnal gweithgareddau yn y babell Cefnlen yn Eisteddfod Genedlaethol eleni. Isod mae tabl yn dangos slotiau sydd ar gael i ni mewn gofod penodedig ar Faes yr Eisteddfod  Genedlaethol. Yn fras, hoffem gynnal sgyrsiau yn y bore, efallai rhyw fath o sesiwn a phethau ymarferol yn… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith Eisteddfod Bro Morgannwg: trafodaeth am amserlen bosib gweithgareddau

Wikimeet Wikimedia UK yn Nhrefynwy 21.4.12

Disgfrifiad o beth yw wikimeet: Wikimeets are mainly casual social events. You can expect to meet some very keen Wikipedians, however this is also an open invite for anyone interested in finding out more about Wikipedia, other Wikimedia projects, projects re-using Wikipedia, and other collaborative wiki projects. Yn sgil llwyddiant prosiect Monmouthpedia, mae’r elusen Wikimedia… Parhau i ddarllen Wikimeet Wikimedia UK yn Nhrefynwy 21.4.12

Blogiwr arall yn cael ei erlid gan awdurdol lleol.

Dan ni eisoes wedi blogio yma am Gyngor Sir Gâr yn galw’r heddlu wrth i flogwraig lleol recordio cyfarfodydd y cyngor.  Tro Cyngor Barnet, Llundain yw hi y tro hwn i ddangos i’r byd sut i beidio ag ymddwyn yn ddemocrataidd. Cefndir: Yn dilyn penodiad gan y cyngor ar gyfer Creation of a Change and… Parhau i ddarllen Blogiwr arall yn cael ei erlid gan awdurdol lleol.